Gwrthwynebiad i newid dalgylch ysgolion Gymraeg Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Bydd newid y dalgylch yn effeithio ar ysgolion uwchradd Glantaf, Plasmawr a Bro Edern - yn ogystal ag ysgolion cynradd iaith Gymraeg

Mae cannoedd o rieni yng Nghaerdydd wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu bwriad cyngor y ddinas i newid dalgylchoedd ysgolion iaith Gymraeg.

Mae rhai rhieni yn poeni na fydd eu plant yn gallu mynd i'r un ysgolion o ganlyniad - gyda brodyr a chwiorydd yn cael eu gwahanu. Mae yna hefyd pryder bydd ffrindiau'n cael eu gwahanu o ganlyniad i'r newidiadau i'r dalgylchoedd.

Bydd y cynlluniau'n effeithio ar Ysgol Treganna, Pwll Coch, Nant Caerau a Mynydd Bychan a bydd dalgylch ar gyfer Ysgol Hamadrayad yn Grangetown yn cael ei greu am y tro cyntaf.

Daw'r cynnig yn sgil galw cynyddol am addysg iaith Gymraeg a thwf ym mhoblogaeth Caerdydd.

Bydd y dalgylch hefyd yn newid ar gyfer ysgolion uwchradd - gan effeithio ar ysgolion Glantaf, Plasmawr, a Bro Edern.

O ganlyniad, gall rhai teuluoedd golli'r hawl i gael trafnidiaeth i'r ysgol am ddim.

Mae Cyngor Caerdydd wrthi'n ymgynghori at sut i ateb y galw am addysg iaith Gymraeg.

Mewn datganiad dywedodd y cyngor "bod yna ddarpariaeth ym mholisi mynediad yr awdurdod i blant sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau"

"Yn nhermau Ysgolion Uwchradd mae nifer llefydd ysgol Plasmawr yn cynyddu, fydd yn golygu ar sail ffigurau presenonol plant o fewn y dalgylch y bydd y galw'n is na'r niferoedd ar gael.

Mae'r ymgynghoriad yn parhau tan 26 Chwefror, ac os yw'r cynlluniau'n parhau, bydden nhw'n cael eu gweithredu o fis Medi'r flwyddyn nesaf.