Beth yw teimladau'r ASEau o Gymru sy'n gadael?

  • Awdur, Cemlyn Davies
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol Â鶹ԼÅÄ Cymru

Wrth gerdded i mewn i swyddfa Jill Evans yn adeilad y Senedd Ewropeaidd mae'n anodd peidio baglu dros y bocsys.

Mae yna 15 ohonyn nhw i'w cludo i'r Rhondda - pob un yn llawn dogfennau, pamffledi ac atgofion o'r 20 mlynedd ddiwethaf.

Gyda diwrnod ola' ASE Plaid Cymru'n brysur agosáu sut mae hi'n teimlo?

"Yn dorcalonnus wrth gwrs," meddai'r aelod gafodd ei hethol am y tro cyntaf yn 1999.

"Bydd e'n anodd iawn i gerdded mas o'r Senedd ar y diwrnod ola'.

"Mae'n anodd ffarwelio â ffrindiau a chydweithwyr ond byddwn ni yn cadw mewn cysylltiad a dwi'n siŵr y bydda i'n gweld nhw eto."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Jill Evans ei hethol i Senedd Ewrop am y tro cyntaf yn 1999

'Statws i'r Gymraeg'

Wrth edrych 'nôl ar ddau ddegawd yn Senedd Ewrop mae Ms Evans yn ymfalchïo yn ei gwaith gyda phobl ifanc, ar hawliau cydraddoldeb ac ym maes amaeth a chefn gwlad.

Ond beth mae hi'n ei deimlo yw ei llwyddiant mwyaf?

"Cael statws hyd-swyddogol i'r iaith Gymraeg yma, sydd ddim yn statws swyddogol llawn, ond mae'n rhywbeth hanner ffordd," meddai.

Mae gallu defnyddio'r Gymraeg mewn rhai amgylchiadau ffurfiol "wedi bod yn bleser," yn ôl Ms Evans.

'Swydd orau'r byd'

Wrth edrych i'r dyfodol mae'n bwriadu parhau'n wleidyddol-weithgar yn ei rôl fel cadeirydd CND Cymru, ond does dim bwriad dychwelyd i "wleidyddiaeth ffurfiol".

"Dwi wedi cael 20 mlynedd o beth i fi oedd y swydd orau'n y byd," meddai.

"Mae e wedi bod fel breuddwyd i fi i wneud y gwaith ro'n i eisiau gwneud cymaint, a nawr mae'n amser i bobl ifancach i gael y cyfle yna."

Un peth nad sydd i'w bacio i focs ydy baner y ddraig goch - mae honno i'w rhoi i lywydd ei grŵp yn y Senedd i'w "gadw'n ddiogel" nes y bydd Cymru'n dychwelyd i'r UE.

"Dwi'n hyderus," meddai Ms Evans. "Dwi'n credu y byddwn ni 'nôl".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Jackie Jones ei hethol i Senedd Ewrop fis Mai diwethaf

Un arall sy'n siomedig i adael ydy Jackie Jones, yr ASE Llafur dros Gymru, ddaeth â llwyau caru i'w dosbarthu yn y Senedd cyn gadael.

"Dwi wedi mwynhau pob munud," meddai. "Cydweithwyr gwych, ffeiliau gret i weithio arnyn nhw."

Mae hi'n gobeithio y bydd pobl ifanc yn y dyfodol yn ymgyrchu dros ailymuno â'r Undeb, ac y bydd refferendwm arall yn digwydd.

A beth am ei chynlluniau hi nawr? A fyddai hi'n ystyried sefyll yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf?

"Mae'n rhy gynnar i ddweud. Os oes seddi ar gael, dwi ddim yn gwybod, efallai. Dwi ddim yn diystyrru unrhyw beth."

Disgrifiad o'r llun, Er bod Nathan Gill yn falch o adael Senedd Ewrop, mae'n cydnabod y bydd yn gadael ffrindiau ar ôl

Neges wahanol iawn sydd i'w chlywed yn swyddfeydd Nathan Gill a James Wells - y ddau'n aelodau o Blaid Brexit.

Yn ôl Mr Gill, sy'n aelod ers 2014, "fyddwn ni byth yn dod 'nôl," a bydd cenhedloedd eraill yn dilyn yr un llwybr yn y dyfodol.

Dyma'r pedwerydd tro i Nathan Gill bacio'i focsys wrth i'r broses Brexit rygnu 'mlaen.

Mae'n teimlo'n "swreal", meddai, "ond y tro hwn ry'n ni'n gwybod ei fod e'n digwydd go iawn, ni'n mynd, diolch byth!"

Er bod Mr Gill a Mr Wells wedi ymgyrchu dros adael yr UE mae'r ddau'n cydnabod y byddan nhw'n gadael ffrindiau ar ôl.

"Ble bynnag mae rhywun yn treulio amser ac mae cydweithwyr gyda chi, chi'n gwneud ffrindiau a byddai'n eu methu nhw ond byddai'n cadw mewn cysylltiad gyda nhw," meddai Mr Gill.

Disgrifiad o'r llun, Mae James Wells yn cydnabod bod gadael ei swydd yn golygu "cyfnod eitha' anodd" iddo

Dim ond ym mis Mai cafodd Mr Wells ei ethol ond dywedodd y bydd yntau'n methu "brawdgarwch" ei gydweithwyr.

"Mae'n anhygoel bod hyn i gyd wedi digwydd mewn naw neu 10 mis," meddai.

"I'r rheiny ohonon ni adawodd ein swyddi a'n bywydau blaenorol, ry'n ni wedi aberthu llawer ac felly wrth edrych ymlaen mae'n gyfnod eitha' anodd nawr."

Mae'r ddau'n edrych ymlaen nawr i dreulio amser gyda'u teuluoedd.

Mae'r ddau hefyd yn gwrthod diystyru'r posibilrwydd o sefyll yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesa'.

Ond cyn hynny mae yna ddathlu i'w wneud, a'r ddau'n edrych ymlaen at barti mawr yn Llundain nos Wener.