Â鶹ԼÅÄ

Galw am 'gamau cadarnhaol' cyn Brexit

  • Cyhoeddwyd
BaneriFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth i Gyd-bwyllgor y Gweinidogion gyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Mawrth mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am "gamau cadarnhaol".

Bydd aelodau o Lywodraeth y DU a chynrychiolwyr o'r llywodraethau datganoledig yn cwrdd i drafod yr Undeb Ewropeaidd am y tro olaf cyn dyddiad Brexit ddydd Gwener.

Dywedodd Mark Drakeford: "Edrychaf ymlaen at groesawu cyfeillion a chydweithwyr o bob rhan o'r DU i drafod yr holl ddewisiadau pwysig sydd i'w gwneud ynglŷn â'r negodiadau cymhleth sydd i ddod o ran perthynas y DU a'r UE yn y dyfodol.

"Rhaid cynnwys Cymru yn llawn yn y cam nesaf hwn o negodiadau er mwyn codi llais dros swyddi, busnesau a chymunedau Cymru.

"Mae heddiw'n cyfle i Lywodraeth y DU ddangos ei hymrwymiad i'r DU gyfan a chyflwyno cynigion i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn y negodiadau sydd i ddod.

"Rhaid gwireddu geiriau cadarnhaol drwy gymryd camau cadarnhaol."

Disgrifiad o’r llun,

Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford

Bydd Ysgrifenyddion Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ynghyd â chynrychiolwyr o Adran Gadael yr UE a Gweinidog y Cyfansoddiad yn bresennol.

Yn ogystal â chynrychiolaeth o Senedd yr Alban, bydd prif weinidog a dirprwy brif weinidog Gogledd Iwerddon yn bresennol am y tro cyntaf ers i'r senedd yno gael ei hadfer.

Hefyd yno fydd Canghellor Dugaeth Caerhirfryn, Michael Gove.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Gove: "Fe fydd 2020 yn flwyddyn o dwf a chyfleoedd wrth i ni drafod ym mhedwar cornel y wlad a chryfhau ein Hundeb.

"Mae hyn wedi dechrau'n bositif gydag adferiad senedd Gogledd Iwerddon, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y prif weinidog Arlene Foster a'r dirprwy brif weinidog Michelle O'Neill o amgylch y bwrdd am y tro cyntaf ers 2017."

Fe fydd Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Cymru, hefyd yn y cyfarfod.