Â鶹ԼÅÄ

Cwpan FA Lloegr: Reading 1-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Callum Paterson yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Callum Paterson yn cadw gobeithion Caerdydd yn fyw yng Nghwpan FA

Bydd yn rhaid i Reading a Chaerdydd ail chwarae ym mhedwaredd rownd Cwpan FA ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm Madejski.

Cafodd yr ymwelwyr gôl gynnar ,gyda Callum Paterson yn rhwyso wedi pum munud.

Tair munud yn ddiweddarach roedd Reading wedi taro'n ôl gyda gôl gan Yakou Meite.

Cafodd Tom McIntyre ei hel o'r maes yn hwyr yn yr ail hanner ond mi fethodd Caerdydd â manteisio yn erbyn y 10 dyn.

Bydd y ddau glwb yn wynebu ei gilydd eto am le yn y bumed rownd.

Byddan nhw hefyd yn wynebu ei gilydd mewn gêm y Bencampwriaeth ar ddiwrnod olaf mis Ionawr.