Â鶹ԼÅÄ

Lisa a Fiona: Cofio cusan hoyw gyntaf Pobol y Cwm

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae stori Lisa a Fiona yn un o rai mwyaf cofiadwy Cwmderi

Yn 1997, darlledwyd y gusan lesbiaidd gyntaf ar deledu Cymraeg, pan ddechreuodd Lisa Morgan a Fiona Metcalfe ar eu perthynas ar Pobol y Cwm.

A hithau'n benwythnos Santes Dwynwen, mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs â'r ddwy a bortreadodd y pâr, Beth Robert a Lydia Jones ac uwch-gynhyrchydd y gyfres ar y pryd, Dr Glenda Jones, ynglŷn â sut beth oedd hi i ddod â'r stori'n fyw.

Yn ogystal, mae un o ffans y gyfres, Manon Fischer-Jenkins, yn egluro pa mor arwyddocaol oedd y foment iddi, â hithau'n ferch ifanc 17 oed bryd hynny, i weld dwy ddynes mewn cariad ar y sgrin fach Gymraeg.

Gwyliwch y fideo i glywed yr hanes

Hefyd o ddiddordeb: