'Dylai lladd-dai Cymru orfod gosod camerâu CCTV,' medd ACau

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae'r pwyllgor am i Gymru ddilyn esiampl Lloegr a'r Alban

Dylai lladd-dai Cymru gael eu gorfodi i osod camerâu CCTV, yn ôl aelodau un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae'n dilyn deiseb i'r Senedd gan yr elusen lles anifeiliaid, Animal Aid.

Maen nhw'n dadlau y byddai'r cam yn atal achosion o gamdrin anifeiliaid ac yn gymorth i filfeddygon gyda'u gwaith rheoli a monitro.

Dywed Llywodraeth Cymru bod dim camerâu yn 14 o'r 24 lladd-dy yng Nghymru, er bod gweinidogion wedi darparu arian ar gyfer eu gosod.

Mae'r camerâu'n orfodol ym mhob lladd-dy yn Lloegr, ble mae anifeiliaid byw yn bresennol, ers Mai 2018.

Cafodd cynlluniau i gyflwyno cyfraith debyg yn Yr Alban eu cyhoeddi'r llynedd.

Cafodd deiseb Animal Aid, oedd â 1,000 o enwau arni, ei chyflwyno yn 2012.

Byddai'r cam, medd yr elusen, yn "darparu lluniau ar gyfer hyfforddi ac ailhyfforddi, yn atal rhai o'r camdriniaethau sydd wedi eu ffilmio gan Animal Aid, ac yn darparu tystiolaeth ar gyfer erlyniadau, boed hynny'n angenrheidiol".

'Lleihau dioddefaint anifeiliaid'

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yr AC Ceidwadol Janet Finch-Saunders, bod hi'n "hollbwysig bod anifeiliaid yn cael eu trin gyda pharch ac urddas ar bob achlysur, gan gynnwys ar derfyn eu bywydau".

"Dydy'r pwyllgor ddim yn credu bod trywydd hollol wirfoddol bresennol Llywodraeth Cymru yn ddigonol i sicrhau bod y safonau lles cywir yn cael eu gweithredu ym mhob achos," meddai.

"Un ffordd y gallwn sicrhau nad yw safonau'n cael eu gadael i siawns yw trwy wneud teledu cylch-cyfyng yn orfodol mewn ardaloedd critigol o ladd-dai, gan gynnwys lle mae anifeiliaid yn cael eu cadw a lle maen nhw'n cael eu lladd.

"Rydyn ni'n ystyried ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu i helpu i sicrhau pawb yng Nghymru bod dioddefaint anifeiliaid yn cael ei leihau ar yr adegau hynod sensitif hyn."

Galwodd hefyd ar weinidogion i ddarparu "cyllid digonol" i atgyfnerthu'r safonau a chymryd camau priodol pan fo angen.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor Deisebau fod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dim ond £32,000 i'r ASB i ariannu archwiliadau a gorfodi lles anifeiliaid yn 2019-20 a dim ond £7,400 mewn un flwyddyn ariannol, 2016-17.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.