Cartrefi newydd i gael ynni o ffynonellau glân o 2025

Ffynhonnell y llun, Pobl

Disgrifiad o'r llun, Mae datblygiad carbon niwtral mwyaf y DU yn cael ei godi yn Nhonyrefail yn Sir Rhondda Cynon Taf

Mae cynlluniau newydd Llywodraeth Cymru yn dweud fod angen i bob cartref newydd yng Nghymru gael gwres ac ynni o ffynonellau ynni glân o 2025 ymlaen.

Ar hyn o bryd, mae tai newydd a thai sydd eisoes wedi eu hadeiladu yn cyfrif am 9% o allyriadau nwyon tÅ· gwydr Cymru.

Ond yn unol â'r cynlluniau newydd, bydd cartrefi sy'n cael eu codi wedi 2025 yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn rhatach i'w cynnal, gan gynhyrchu 75-80% yn llai o allyriadau CO2.

Dywedodd cymdeithas datblygu tai mwyaf Cymru, Pobl, bod y "targedau yn heriol ond yn angenrheidiol" i daclo newid hinsawdd.

Mae tai, yn ôl Llywodraeth Cymru, yn cyfrannu'n "fawr at y broblem".

Ychwanegodd llefarydd: "Os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau o ran yr hinsawdd, bydd rhaid i adeiladau weithredu bron yn ddi-garbon erbyn 2050."

Mae disgwyl i'r sawl sy'n byw yn y tai newydd arbed cymaint â £180 y flwyddyn ar filiau.

Ymhlith y cynigion fydd yn cael eu gweithredu yn ystod y pum mlynedd nesaf mae:

  • Gwella effeithlonrwydd ynni o 2020 ymlaen gan arwain at ostyngiad o 37% yn CO2 anheddau newydd, o'i gymharu â'r safonau presennol, gan arbed £180 y flwyddyn ar filiau ynni i berchnogion tai (ar sail tai pâr);
  • Cael gwared ar danwyddau ffosil carbon uchel a symud at ffyrdd glanach o wresogi cartrefi drwy gyflwyno cenhedlaeth ynni a gwres carbon isel, fel ffynonellau ynni adnewyddadwy (paneli ffotofoltäig), pympiau gwres neu rwydweithiau gwresogi ardal, sy'n golygu bod llawer o adeiladau yn cael gwres a dŵr poeth o ffynhonnell wres canolog;
  • Gwella effeithlonrwydd ynni drwy gyflwyno mesurau sy'n cyfyngu ar y gwres sy'n cael ei golli a lleihau'r galw am wres, fel ffenestri gwydr triphlyg a ffabrigau o well ansawdd ar gyfer waliau, toeon, lloriau a ffenestri;
  • Gwella ansawdd aer drwy sicrhau bod aer yn cyrraedd ac yn gadael man neu fannau mewn adeilad gan ddarparu ansawdd aer da.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James: "Mae tai newydd a thai sydd eisoes wedi eu hadeiladu yn gyfrifol am tua phumed o allyriadau nwyon tÅ· gwydr y Deyrnas Unedig.

"Os ydym am gyrraedd ein targed uchelgeisiol, sef sicrhau gostyngiad o 95% yn ein hallyriadau nwyon tÅ· gwydr erbyn 2050, rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn cael gwres ac ynni yn ein cartrefi.

"Bydd y cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu heddiw yn bodoli yn 2050. Rhaid i ni, felly, sicrhau bod y safonau yr ydym yn eu gosod ar gyfer y tai hyn yn ein tywys ar y trywydd cywir.

"Mae hyn yn cynnwys gwella effeithlonrwydd ynni a symud at ffyrdd glanach o wresogi ein cartrefi.

"Nid yn unig y bydd y mesurau hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, ond byddant hefyd yn helpu i sicrhau costau ynni isel i aelwydydd heddiw ac yn y dyfodol.

"Bydd hyn yn helpu pobl â chostau byw, dim ots beth yw eu cefndir na'u hamgylchiadau."

Disgrifiad o'r llun, Bydd paneli haul yn rhan o gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru

Mae'r datblygiad carbon niwtral mwyaf yn y DU yn cael ei godi ar gyrion Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf.

Does yna'r un o'r tai newydd wedi'u cysylltu i'r prif gyflenwad nwy.

Dŵr wedi'i gynhesu dan ddaear sy'n darparu'r gwres, ynghyd â phaneli haul - mae batris hefyd yn storio ynni sy'n gallu cael ei werthu i'r Grid Cenedlaethol.

Bydd technoleg yn cadw llygad ar brisiau ynni gan geisio elwa ar oriau allfrig a bydd gwell inswleiddio yn gostwng y biliau ymhellach.

Disgrifiad o'r llun, "Bellach mae'n rhaid i ni weithredu," medd Rhys Parry o gwmni Pobl

Mae cwmni Pobl, sy'n datblygu tai, yn ffyddiog y bydd perchnogion yn arbed 50% ar eu biliau ynni.

Dywedodd y cyfarwyddwr, Rhys Parry: "Bellach mae'n rhaid i ni weithredu ac mi allwn wneud gwahaniaeth mawr.

"Ry'n ni'n cael gwared ar danwyddau ffosil carbon uchel a symud at ffyrdd glanach o wresogi cartrefi.

"Ond ry'n ni'n ceisio sicrhau na fydd y dechnoleg newydd yn rhy gymhleth. Bydd y tai yn teimlo ac yn arogli'r un fath.

"Dyma dai y dyfodol a gobeithio bydd y cynllun yma yn sicrhau llwyddiant."

Mae ar y cynigion newydd yn cau ar 12 Mawrth 2020. Maen nhw'n bwriadu ymgynghori ar wahân ar safonau gwaith adeiladu sy'n cael ei wneud ar gartrefi sydd wedi eu hadeiladu eisoes.