Â鶹ԼÅÄ

Cau Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon wedi gollyngiad nwy

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Syr Hugh OwenFfynhonnell y llun, Google

Ni fydd ysgol uwchradd yng Ngwynedd yn agor ddydd Iau yn dilyn gollyngiad nwy.

Mae datganiad ar wefan Cyngor Gwynedd yn dweud na fydd Ysgol Syr Hugh Owen ar agor i ddisgyblion ar 9 Ionawr.

Yn ôl y wefan mae hynny oherwydd gollyngiad nwy ar safle'r ysgol, sydd â 875 o ddisgyblion.

Dywed y datganiad y dylai disgyblion sydd ag arholiad TGAU gyfarfod yn y ganolfan hamdden am 12:30.