Prisiau trên i ostwng ar gyfartaledd yng Nghymru yn 2020

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd y newidiadau i'r prisiau yn dod i rym o 2 Ionawr ymlaen

Bydd prisiau tocynnau trên yn gostwng rhywfaint yng Nghymru'r flwyddyn hon, er gwaethaf cynnydd ar draws y DU yn gyffredinol.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai'r prisiau cyfartalog ar gyfer eu gwasanaethau yn gostwng o 1.1% yn 2020.

Ond fe fydd rhai gwasanaethau yn gweld cynnydd o 2.8%, a hynny er mwyn adlewyrchu prisiau uwch oherwydd chwyddiant.

Fe fydd cwmnïau Great Western Railway ac Avanti West Coast, sydd hefyd yn rhedeg rhai gwasanaethau yng Nghymru, yn codi eu prisiau o 2.7% ar gyfartaledd.

Rhatach yn y gogledd

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai prisiau tocynnau ar hyd rhwydwaith gogledd Cymru yn gostwng o 10%, tra bod 33 o orsafoedd yng Nghaerdydd a'r Cymoedd hefyd yn gweld "gostyngiad sylweddol".

Daw hynny, meddai'r cwmni, oherwydd "adolygiad sylweddol o brisiau fel rhan o gyfrifoldebau rheilffordd Llywodraeth Cymru ddaeth i rym yn Hydref 2018".

"Pan fydd prisiau tocynnau yn cynyddu, bydd hyn yn gyson â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU mewn rhannau eraill o'r wlad," meddai Trafnidiaeth Cymru mewn datganiad.

"Wrth ostwng prisiau tocynnau mewn llefydd allweddol rydyn ni eisiau annog mwy o bobl i ddefnyddio'n gwasanaethau, yn enwedig ar adegau o'r dydd ac ar rannau o'n rhwydwaith ble rydyn ni'n gwybod fod digon o le i bawb deithio."

Ond dywedodd David Beer o grŵp teithwyr Transport Focus mai dim ond hanner teithwyr trenau Cymru "sydd yn teimlo eu bod nhw'n cael gwerth am arian", a bod hynny'n llai fyth ar gyfer teithwyr ifanc.

Ychwanegodd bod teithwyr eisiau gwasanaeth "cyson" gyda "siawns well o gael sedd", ond croesawodd y newyddion am ostyngiad yn y prisiau.

"Bydd prisiau eraill dal yn codi ac mae'n rhaid i deithwyr godi'u llais, gan alw am well gwasanaeth a gwireddu addewidion am welliannau."