Â鶹ԼÅÄ

Angen treth i sicrhau arian i ysgolion medd economegydd

  • Cyhoeddwyd
Calvin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dyw ysgolion ddim yn cael digon o gyllid ar hyn o bryd, medd yr Athro Calvin Jones

Fe ddylid cyflwyno treth i sicrhau bod ysgolion wedi eu hariannu'n ddigonol wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, yn ôl economegydd blaenllaw.

Yn ôl yr Athro Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd fe fydd y diwygiadau'n methu heb hwb ariannol sylweddol.

Awgrymodd y gallai ardoll gael ei ychwanegu i dreth y cyngor, trethi busnes neu dreth incwm.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi blaenoriaeth i addysg o fewn ei chyllidebau.

Yn ôl yr Athro Jones, academydd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, mae'r sefyllfa bresennol ar gyfer ariannu ysgolion yn ddybryd.

'Dim slac yn y system'

Dywedodd bod angen o leiaf £200m i £250m y flwyddyn i ddychwelyd at lefelau gwariant ddegawd yn ôl.

Mae'r Athro Jones yn awgrymu y gellid cyflwyno treth neu ardoll fyddai'n codi arian yn benodol ar gyfer addysg wrth i ysgolion baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm o 2022.

"Mae'r cwricwlwm newydd yn gofyn am feysydd dysgu llawer ehangach ac mae hefyd yn gofyn i athrawon fod yn fwy annibynnol, yn fwy hyblyg ac i greu mwy o gynnwys eu hunain," meddai.

"Rwy'n teimlo bod 'na ddim slac yn y system ar hyn o bryd felly mae gofyn i athrawon wneud hynny yn annheg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion ymhen tair blynedd

Mae e hefyd yn awgrymu y gallai'r pwerau benthyca sydd ddim bellach yn cael eu defnyddio i ariannu ffordd osgoi'r M4, gael eu defnyddio i roi hwb ariannol i ysgolion yn y tymor byr.

Pan fyddai'r dreth wedi ei sefydlu ymhen dwy neu dair blynedd, byddai'n creu mwy o gyllid i ysgolion gan hefyd ad-dalu'r benthyciad dros ddegawdau, ychwanegodd.

Cafodd y syniad ei grybwyll mewn adroddiad ar y cyd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol oedd hefyd yn argymell trawsnewid TGAU.

Cwricwlwm yn 'newid enfawr'

Yn ôl Heledd Morgan o swyddfa'r comisiynydd ac oedd wedi gweithio ar yr adroddiad, rhaid gwario er mwyn gwneud y mwyaf o'r cwricwlwm.

"Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle mawr i ni roi sgiliau newydd i bobl ifanc ac i'w paratoi nhw am y dyfodol," meddai.

"Mae angen mwy o arian ar ysgolion ar gyfer eu paratoi nhw am y cyfle mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi i ni.

"Rwy'n credu bod e'n bwysig iawn i gael y cwricwlwm yma'n iawn - mae'n newid enfawr o ran beth sy'n digwydd yng Nghymru."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gyllideb ar gyfer 2020-21 yn cynnwys £86m yn ychwanegol ar gyfer addysg.

"Rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth i addysg o fewn ein cyllidebau presennol," meddai llefarydd.

"I gefnogi cyflwyno'r cwricwlwm newydd rydyn ni wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf mewn athrawon ers datganoli - pecyn dysgu proffesiynol £39m i helpu codi safonau yn yr ystafell ddosbarth."