Nyrs 'ddim yn cofio' bod mewn gwrthdrawiad angheuol

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Cerys Price wrth y llys: "Mae dyn wedi marw o'm herwydd i a galla'i ddim cofio'r peth"

Mae nyrs wedi dweud wrth Lys Y Goron Caerdydd na allai esbonio pam fod yna lefelau mor uchel o gyffur lladd poen yn ei gwaed pan fu mewn gwrthdrawiad a laddodd dyn 65 oed.

Dywedodd Cerys Price ei bod wedi cymryd tramadol noson cyn y gwrthdrawiad ond ei bod ond wedi cymryd un dabled.

Mae Ms Price, sy'n 28 oed ac o Frynmawr, yn gwadu achosi marwolaeth Robert Dean ar yr A467 ger Casnewydd yng Ngorffennaf 2016 trwy yrru'n beryglus.

Mae hefyd yn gwadu achosi anafiadau difrifol i'w chyn-gariad, Jack Tinklin, trwy yrru'n beryglus.

Clywodd y llys bod yna 1803 microgram o tramadol i bob mililitr o waed y diffynnydd - llawer uwch na'r lefel therapiwtig, sef 400 microgram i bob mililitr o waed.

"Un dabled ar y tro"

Mae'r rheithgor eisoes wedi clywed bod Ms Price wedi cael trawiad cyn y gwrthdrawiad a allai fod wedi cael ei achosi gan y cyffur lladd poen.

Roedd hi wedi prynu tramadol tra ar wyliau ym Mecsico ac yn ei gymryd i reoli poen ar ôl colli babi.

Clywodd y rheithgor ei bod "ond wedi cymryd un tabled ar y tro erioed", gan wadu cymryd y cyffur er difyrrwch i deimlo'n benfeddw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Robert Dean yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad

Dywedodd nad oedd wedi "croesi fy meddwl" i grybwyll tramadol pan ofynnwyd iddi wedi'r gwrthdrawiad pa feddyginiaethau roedd hi'n eu cymryd.

Roedd yn teimlo'r un fath ag arfer ddiwrnod y gwrthdrawiad, meddai wrth y llys, ac yn edrych ymlaen at gael mynd i wersylla ond mae'n dweud na allai cofio dim byd ar ôl ymuno â ffordd ddeuol.

Dywedodd ei fod bod gwella'n "gorfforol, ond nid yn feddyliol" ers y gwrthdrawiad.

"Fedra'i ddim stopio meddwl amdano," meddai. "Bob dydd, mae'n ddychrynllyd, mae'n hunllefus a galla'i ddim cofio dim byd. Mae dyn wedi marw o'm herwydd i a galla'i ddim cofio'r peth."

Dywedodd ei bod wedi cael diagnosis o epilepsi ers y gwrthdrawiad ac wedi cael rhwng pump a saith o drawiadau wedi hynny.

Dywedodd wrth y llys ei bod yn credu iddi gael trawiad epileptig ddiwrnod y gwrthdrawiad a'i bod ddim yn derbyn ei fod "mor ddifrifol dan ddylanwad cyffur" nes bod yna effaith ar ei gallu i yrru.

Mae'r achos yn parhau.