Â鶹ԼÅÄ

Awdures ieuengaf Cymru a'i llyfr adar i blant

  • Cyhoeddwyd
Onwy GowerFfynhonnell y llun, Jon Gower

Mae'n bosib mai Onwy Gower, merch 10 mlwydd oed o Gaerdydd, yw'r person ieuengaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg. Mae Llyfr Adar Mawr y Plant yn llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru.

Bu Cymru Fyw'n holi Onwy am sut brofiad oedd cyhoeddi ei llyfr cyntaf.

"Dw i'n teimlo'n falch iawn pan dw i'n edrych ar y llyfr oherwydd dechreuodd e gyda jest syniad a nawr mae wedi ei droi mewn i lyfr.

"Oherwydd mae fy nhad a mam wedi ysgrifennu llyfrau, o'n i'n meddwl pa ffordd well i siarad am fy angerdd am adar nag ysgrifennu llyfr amdano?"

Mae Onwy a'i thad, yr awdur Jon Gower, yn mynd i wylio adar yn rheolaidd, yn lleol i Gaerdydd ac hefyd i Benclacwydd ger Llanelli.

Dywedodd Onwy: "'Oedd fy nhad wastad yn dweud faint oedd e'n mwynhau gwylio adar pan oedd e'n ifanc ac 'oedd e'n esbonio faint yn llai o adar sy' nawr i gymharu. Ges i fy mhâr cyntaf o binoculars blynyddoedd yn ôl a dechrau gwylio adar gyda fy nhad a dw i wedi mwynhau gwneud hynny ers hynny.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Llyfr Adar Mawr y Plant

Adar prin

"Oherwydd mae 'na lai o adar ac oherwydd beth sy'n mynd 'mlaen yn y byd, o'n i'n meddwl bod llyfr am adar mor berffaith. Dw i'n credu bydd plant a oedolion yn meddwl mwy am fynd tu fas a gwylio adar ar ôl darllen llyfr am adar."

Mae'r llyfr, sy' wedi ei ddarlunio gan Ffion Gwyn, yn cynnwys ffeithiau, ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu'n arbennig ar gyfer y gyfrol.

Dywedodd Onwy: "Dyw oedolion ddim yn hollol sicr o be' mae plant yn ddeall a ddim yn gwybod pa ffeithiau maen nhw ishe gwybod felly mae'n well os mae plentyn yn gallu 'neud y llyfr a wedyn bydd mwy o lyfrau sy'n apelio at blant.

"'Oedd ysgrifennu y llyfr yn llwyth o waith - 'oedd rhaid ysgrifennu am 50 o adar ac roedd yn cymryd amser i wneud bob un. Roedd yn hwyl i ffeindio ffordd o esbonio am adar mewn ffordd fy hun ond roedd hefyd yn sialens mawr."

Ffeithiau syfrdanol

Sut oedd Onwy'n dewis y ffeithiau am bob aderyn?

"'Oedd fy nhad efo fi wrth y desg ac 'oedd gyda fi pedwar neu bump o lyfrau ar y desg felly o'n i'n ffeindio gwybodaeth am bob un a dewis y ffaith mwya' diddordol neu doniol a throi e mewn i ffaith ffab.

"Dw i'n hoffi'r faith am y drudwy - mae'n gallu copïo synau, e.e adar eraill, cŵn, larwm car a hyd yn oed ffonau symudol.

"Fy hoff aderyn yw'r sigldigwt achos mae'n hawdd i weld, chi'n gallu gweld nhw mewn lot o lefydd yng Nghaerdydd."

Ffynhonnell y llun, Marian Delyth
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Jon Gower

Tad a merch

Roedd Jon Gower, sy' wedi gweithio i'r RSPB yn y gorffennol, wedi mwynhau gweithio gyda'i ferch: "Beth oedd yn ddiddorol oedd gweld y ffordd mae plant yn gweld pethe'n wahanol.

"Un diwrnod aethon ni i Ynys Sgomer i edrych ar adar y môr ac 'oedd y pâl yn niferus iawn yn y môr ac ar y clogwyni, yn yr awyr ac o dan wyneb y môr. 'Oedd y ffordd o'n i'n gweld mor wahanol i Onwy oedd yn gweld pethe wedi torri i fyny mewn cwarteri, fel bod cwarter yr adar ar y clogwyni a chwarter ar wyneb y dŵr.

"Pan ti'n cael oedolion yn ysgrifennu i blant dyw nhw ddim o reidrwydd yn gweld y byd yn yr un ffordd."

Y dyfodol

A be' hoffai Onwy wneud ar ôl tyfu i fyny?

"Dw i eisiau bod yn awdur ac ysgrifennu llyfrau ffeithiol am natur a ffuglen."

Bu Onwy hefyd yn siarad am ei llyfr newydd ar Galwad Cynnar ar Radio Cymru.

Hefyd o ddiddordeb