Â鶹ԼÅÄ

Bos Pisa: 'System addysg Cymru wedi colli ei henaid'

  • Cyhoeddwyd
Andreas Schleicher
Disgrifiad o’r llun,

Andreas Schleicher yw pennaeth addysg corff economaidd yr OECD, sy'n rhedeg Pisa

"Mae Cymru wedi tanberfformio ac mae hefyd wedi gweld ei pherfformiad yn dirywio."

Dyna ddadansoddiad damniol y dyn sy'n gyfrifol am un o brofion mwyaf dylanwadol y byd addysg.

Andreas Schleicher yw pennaeth addysg corff economaidd yr OECD, sy'n rhedeg Pisa ac yn gyfrifol am y profion rhyngwladol sy'n asesu sgiliau plant 15 oed bob tair blynedd.

Roedd e'n siarad cyn i Pisa gyhoeddi eu canlyniadau diweddaraf ddydd Mawrth.

Mae dros 70 o wledydd a rhanbarthau yn cymryd rhan ond mae canlyniadau Cymru wedi bod yn is na'r cyfartaledd ac yn waeth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.

Bydd y canlyniadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Yn ôl Mr Schleicher mae'n dangos bod gormod o bobl ifanc yn gadael addysg heb y sgiliau maen nhw eu hangen.

Mae "enaid" y drefn wedi mynd ar goll trwy beidio canolbwyntio ar ddysgu o ansawdd uchel, meddai.

"Beth sy'n glir iawn yw dydy'r agendor rhwng beth mae'r byd ei angen gan ddysgwyr a beth mae ysgolion yn darparu yng Nghymru ddim wedi mynd yn llai, mae wedi mynd yn fwy," meddai.

'Larwm iach' i Gymru

Mae Pisa wedi dod yn gynyddol bwysig fel mesur o berfformiad addysgiadol, ond mae rhai wedi codi amheuon am y profion a'r ffordd y mae rhai gwledydd wedi ymateb i ganlyniadau gwael.

Fe brofodd Cymru 'sioc Pisa' yn 2010 pan ostyngodd y canlyniadau yn is na chyfartaledd yr OECD ym mhob pwnc, sef darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.

Roedd perfformiad Cymru hefyd yn is nag unrhyw ran arall o'r DU - ac mae wedi aros ar waelod tabl gwledydd y DU hyd at y canlyniadau diwethaf yn 2016.

"Fe fydden i'n bendant yn gweld y 'sioc Pisa' yng Nghymru fel larwm iach iawn ar gyfer y system," dywedodd Mr Schleicher.

"Fe greodd hunan-ywmwybyddiaeth nad oedd yna o'r blaen."

Ac mae'n feirniadol iawn am oblygiadau beth mae e'n ei alw'n "model 20fed ganrif o ddysgu" Cymru, ar gyfer cyfleoedd pobl ifanc.

"Dyw nifer o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn cyrraedd y lefelau sylfaenol o wybodaeth a sgiliau," meddai.

"Dydy hyn ddim ynglŷn â rhai ysgolion yn tan-berfformio. Mae'n fwy fel mater o nifer o bobl ifanc ddim yn cael yr addysg mewn nifer o ysgolion, mewn sawl cyd-destun economaidd."

Mae Mr Schleicher yn croesawu'r diwygiadau addysg yng Nghymru sy'n ceisio rhoi hwb i ansawdd dysgu ac athrawon.

"Ydy hynny'n ddigon i godi statws y proffesiwn dysgu, dydw i ddim eto wedi fy argyhoeddi, ond mae'n gam cyntaf pwysig," meddai.

'Cymryd amser'

Dywedodd bod yna "syniadau ysbrydoledig iawn" yn y ac mae e o'r farn bod y diwygiadau yng Nghymru yn arwain Cymru at "drefn addysg sy'n perfformio ar lefel uwch".

Ond mae'n bosib na fydd hynny'n tawelu meddyliau rhieni sydd wedi gweld cyfres o ganlyniadau Pisa gwael dros ddegawd.

"Os ydych chi'n gwneud y pethau cywir yna fe fydd hynny'n arwain at ganlyniadau gwell ac fe fydd hynny'n cymryd amser," meddai.

"Dylai rhieni ddeall mai'r hyn mae Cymru'n ei wneud yw'r ffordd orau i wella addysg."

Ond pan mae'r canlyniadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth fe fydd rhieni, gwleidyddion ac athrawon yn awyddus i weld o leiaf egin gwelliant.