Cath Ayres a meistroli acen Corrie

Ffynhonnell y llun, ITV

Disgrifiad o'r llun, Chesney a Tara (Cath Ayres)

Mi fydd gwylwyr Coronation Street ar ITV1 wedi sylwi'n ddiweddar bod wyneb newydd wedi ymuno â'r stryd.

Mae'r actores Cath Ayers, sy'n byw yng Nghaerdydd, yn adnabyddus am chwarae rhan Angharad Wyn yn Byw Celwydd, ac yn fwy diweddar fel Lisa, ffrind gorau Faith, yn y gyfres Un Bore Mercher / Keeping Faith.

Bellach mae hi wedi ymuno â chast yr opera sebon boblogaidd ym Manceinion, yn chwarae cymeriad Tara, rheolwr marchnata archfarchnad Freshco.

"Dwi'n chware rhan Tara, ac mae'r rhan fwya' o fy ngolygfeydd i gyda'r [cymeriadau] Chesney a Gemma sydd wedi geni quads, ar cable car yn Llandudno! Fi'n trio eu cael nhw yn rhan o'r hysbysebu i'r archfarchnad.

"Yr wythnos dd'wetha', fe ges i fy ngolygfa gynta' gyda Barbara Knox, sy'n chwarae Rita. O'n i'n nerfus iawn, achos mae hi 'di bod 'na ers blynydde. Mae hi yn ei 80au hwyr erbyn hyn ac mae'n legend, ond oedd hi'n lyfli chware teg."

Roedd cyfarfod â'r holl wynebau cyfarwydd yn Coronation Street yn brofiad tebyg i pan ddechreuodd Cath Ayres ei gyrfa actio, yn chwarae rhan Angie yn Pobol y Cwm, 20 mlynedd yn ôl, meddai.

"Pan ti'n troi lan ar set, fel nawr gyda Coronation Street, ma' nhw'n bobl ti'n gweld ar y sgrin trwy'r amser a ti'n meddwl bo' ti'n eu nabod nhw, ond ti'n bendant ddim, a ti'n gwrtais yn dweud 'helo', ond wrth gwrs 'dy'n nhw ddim yn gwybod pwy ydw i!

"Ond mae pawb mor lyfli lan 'na. Mae'r northerners yn debyg iawn fel cymeriad i'r Cymry, yn groesawgar iawn, yn lyfli. Dwi wrth fy modd yn mynd 'na."

Mae Coronation Street yn enwog am fod wedi ei leoli ym Manceinion, ac roedd meistroli acen gogledd Lloegr yn poeni Cath cyn cymryd y rhan, meddai.

"Dwi ddim yn dda gyda acenion yn gyffredinol, ond o'dd acen gogledd Lloegr yn un o'n i wedi cyffwrdd arno fe dros y blynydde, ond ddim yn serious, ac oedd dim lot o amser gyda fi i ymarfer," meddai.

"Ond fe benderfynes i drio fe, ac os oedd y cynhyrchwyr a'r cyfarwyddwyr yn Corrie ddim yn meddwl ei fod yn dda iawn, allen nhw ddweud wrthai, ond o'n i ddim am stopio fy hunan [rhag mynd am y rhan]."

Disgrifiad o'r llun, Cath Ayers yn chwarae rhan Lisa yn Un Bore Mercher / Keeping Faith

Dwy bennod oedd y cymeriad Tara i fod ymddangos ynddyn nhw, ond bellach mae Cath wedi ffilmio 12 pennod, a bydd hi'n parhau yno tan ddiwedd mis Ionawr.

Ac mae'r diolch iddi gael y rhan o gwbwl yn mynd i'w thad, meddai.

"O'n i adre [gyda fy rhieni] yn Abergwili pan ges i'r alwad i weld os oedd diddordeb 'da fi i wneud Coronation Street, ac oedd yn rhaid i fi recordio fy hunan [i'w anfon at y cynhyrchwyr].

"Pan dwi'n Gaerdydd mae gen i lot o ffrindie sy'n actorion sy'n dod draw i helpu, ond adre, Dad oedd fy newis i, ac oedd e'n cymryd e'n serious iawn chware teg!

"Fi'n credu odd e'n gobeithio bydde fe'n cael rhan ei hunan!"

Ffynhonnell y llun, ITV

Disgrifiad o'r llun, Tara (Catherine Ayers) ar y dde, gyda Chesney a Gemma

Hefyd o ddiddordeb: