Â鶹ԼÅÄ

Miloedd yn heidio i Lanberis ar gyfer Marathon Eryri

  • Cyhoeddwyd
Marathon Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Rhedwyr yn paratoi i gychwyn y ras fore Sadwrn

Mae Marathon Eryri wedi dod i ben am flwyddyn arall, gyda ras lwyddiannus er gwaethaf pryderon am y tywydd.

Callum Rowlinson o Sale ger Manceinion oedd y cyntaf i gwblhau'r ras eleni, gyda Andrea Rowlands yn gorffen hanner munud o flaen Anna Bracegirdle yn ras y merched.

Mae Marathon Eryri yn cael ei hystyried yn ras hardd a heriol, gyda'r tir yn codi i bron 3000tr (910m) uwchben lefel y môr.

Fe gafodd ei chynnal gyntaf yn 1982 - gyda 600 o redwyr yn cystadlu.

Eleni roedd bron i 2,500 o redwyr yn cymryd rhan.

Mae'r ras yn cychwyn wrth droed Yr Wyddfa yn Llanberis ac yn arwain rhedwyr i fyny Pen-y-Pas tuag at Feddgelert, ymlaen at Waunfawr cyn troi'n ôl i orffen yn Llanberis.