Â鶹ԼÅÄ

Cyfraith i leihau effaith tai haf 'ddim yn gweithio'

  • Cyhoeddwyd
AbersochFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abersoch yn bentref poblogaidd gyda pherchnogion ail dai

Dydy cyfraith newydd gafodd ei chreu i leddfu effeithiau tai haf ar gymunedau "ddim yn gweithio", yn ôl rhai gwleidyddion.

Ers 2017 mae cynghorau lleol wedi cael yr hawl i godi premiwm o hyd at 100% ar dreth cyngor perchnogion ail dai, a'r arian i gael ei ddefnyddio ar roi hwb i'r stoc dai fforddiadwy mewn cymunedau.

Ond mae nifer cynyddol yn dewis cofrestru eu heiddo fel busnesau sy'n golygu nad ydyn nhw'n talu trethi lleol o gwbl.

Mae fforwm gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru newid y ddeddf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru awdurdodau lleol sydd orau i ddelio â'r mater.

Mae Rhys Elvins yn un o gyfarwyddwyr cwmni Abersoch Quality Â鶹ԼÅÄs, busnes teuluol sydd yn gyfrifol am osod tua 90 o dai yn ardal Abersoch.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Elvins yn dweud bod y sefyllfa yn deg am fod y perchnogion yn dod ag arian i'r ardal

Mae tua hanner eu cleientiaid yn dynodi eu heiddo fel busnesau.

Ar yr amod fod yr eiddo ar gael i'w osod am 140 diwrnod o'r flwyddyn ac yn cael ei osod am 70 o'r rheiny, does dim angen talu treth cyngor.

Yn ôl Mr Elvins mae'n sefyllfa deg.

"Os ydy eiddo yn cynhyrchu incwm yna ma'n cael ei ystyried yn fusnes bach," meddai.

"Maen nhw'n dod â phobl ac arian i mewn i'r ardal felly dwi'n meddwl fod y sefyllfa yn un deg."

Mae Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu ers tro i gael newid y ddeddf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n teimlo fel bod y rhai sydd yn talu trethi yn "sybsydeiddio" perchnogion ail gartrefi, medd yr AC Siân Gwenllian

Yn ôl Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllian mae'n ychwanegu at y pwysau ar y farchnad dai i bobl ifanc wrth i brisiau fynd yn rhy uchel i bobl leol.

"Mae 'na 2,000 o bobl ar y rhestr yn aros am dai yng Ngwynedd, wedyn mae 'na 1,000 arall sydd wedi ffeindio ffordd o osgoi talu treth o gwbl.

"Mae'n warthus fod y peth yn cael ei ganiatáu."

Mae 'na tua 5,000 o ail dai yng Ngwynedd.

'Annhegwch'

Honiad y cyngor yw eu bod nhw'n colli cannoedd o filoedd y flwyddyn wrth i fwy o berchnogion beidio talu treth cyngor.

Mae Dyfrig Siencyn yn gyd gadeirydd fforwm gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn siomedig nad ydy Llywodraeth Cymru yn fodlon newid y ddeddf.

"Mae yna annhegwch fod y bobl yma sydd yn gallu fforddio prynu ail dÅ· ddim yn talu treth o gwbl, ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn deall yr ateb syml sydd yn cael ei gynnig ac mae angen inni wneud mwy o waith i'w perswadio nhw o hynny."

Mewn datganiad mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod amodau "penodol i berchnogion tai sydd am osod eu tai fel unedau hunan arlwy".

Mae gan awdurdodau lleol y "grym i godi premiwm o hyd at 100% ar dreth cyngor tai gwag ac ail dau yn eu hardaloedd", meddai llefarydd.