Â鶹ԼÅÄ

Cwynion am gau ffyrdd i adeiladu ffordd osgoi Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
ffordd osgoi

Wrth i'r gwaith adeiladu ar ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon barhau, mae cwynion wedi codi'n lleol am nifer y ffyrdd gwledig yn yr ardal sydd wedi cau er mwyn i'r contractwyr wneud eu gwaith.

Bydd y ffordd newydd, bron i 10km o hyd, yn ymestyn o gylchfan Llanwnda hyd at gylchfan Plas Menai ar ffordd osgoi'r Felinheli, a'r cyfan yn costio £135m.

Ond mae cwynion yn ardal Saron a Felinwnda gan y bydd y ddwy lôn sy'n cysylltu'r pentrefi gyda'r A487 yn cau yr un pryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y gwaith ar y ffordd yn "gymhleth" a'u bod yn ceisio sicrhau bod unrhyw ddargyfeirio ar y ffyrdd yn "tarfu cyn lleied â phosib ar y cyhoedd".

'Mwy o betrol'

Yn ôl Lynn Roberts, sy'n byw yn Saron ac yn gweithio yng nghylch meithrin Dinas Llanwnda, bydd rhaid iddi hi yrru bob cam o Saron i Gaernarfon ac wedyn i Bontnewydd i fynd â'i phlant i'r ysgol yn y bore ac wedyn gyrru yn ôl i Saron ac ymlaen i Gylch Meithrin Dinas Llanwnda lle mae hi'n gweithio.

"Mae o yn fwy o filltiroedd i fi a mwy o betrol," meddai. "Y broblem ydy bod nhw'n mynd i gau'r ddwy ffordd yr un pryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni fel Lynn Roberts yn wynebu siwrne llawer hirach oherwydd bod ffyrdd wedi eu cau

Arweinydd y Cylch Meithrin ydy Mari Hughes, ac mae hi'n poeni y bydd rhieni'n peidio dod â'u plant i'r cylch oherwydd y bydd y ffyrdd wedi eu cau.

"Ein pryderon ni fel Cylch ydi fod hyn hwyrach yn mynd i wahardd rhieni rhag ein defnyddio ni.

"Cylch bychan ydan ni fel pob Cylch gwledig, wastad yn chwilio am arian ac yn trio cynnal ein hunain, ac felly rydan ni 'chydig bach yn bryderus na fydd rhieni yn ein defnyddio ni."

Disgrifiad o’r llun,

Poeni mae Mari Hughes ar yr effaith bosib ar y cylch meithrin

Dywedodd y cynghorydd Sion Jones o Fethel fod mater cau'r ffyrdd wedi ei drafod yn ystod y cyfnod ymgynghori cyn dechrau'r gwaith.

"Dwi'n cydymdeimlo i raddau hefo pobl sy'n cwyno am y lonydd wedi cau," meddai.

"Ond mae 'na ymgynghoriad wedi bod, mae pobl yn deall fod 'na lonydd yn cau dros dro, a dwi'n meddwl bod rhaid i ni jyst delio hefo hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r cynllun, fod y contractwyr yn cydweithio â Chyngor Gwynedd i sicrhau fod unrhyw ddargyfeirio traffig yn cael cyn lleied o effaith â phosib ar y cyhoedd a busnesau lleol.

"Mae'n brosiect heriol a chymhleth, ac am resymau diogelwch yn ystod yr adeiladu mae angen weithiau cau rhai ffyrdd presennol dros dro," meddai'r llefarydd.