Cadarnhad mai corff Brooke Morris gafodd ei ganfod

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Brooke Morris, 22, ei gweld ddiwethaf yn oriau mân fore Sadwrn

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai'r corff gafodd ei ganfod mewn afon ddydd Mercher oedd Brooke Morris, a aeth ar goll wedi noson allan.

Daeth Heddlu De Cymru o hyd i gorff menyw yn afon Taf ger Abercynon ddydd Mercher.

Bu swyddogion yn chwilio yn afonydd yr ardal fel rhan o'u hymchwiliad i ddiflaniad Ms Morris, 22.

Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Ms Morris.

Bydd archwiliad post mortem i farwolaeth Ms Morris yn digwydd maes o law.

Disgrifiad o'r llun, Mae blodau wedi cael eu gadael ger llwybr sy'n arwain at afon Taf ger Abercynon

Cafodd Ms Morris ei gweld ddiwethaf yn oriau mân fore Sadwrn ar ôl noson allan yng nghanol Merthyr Tudful.

Dros y dyddiau'n dilyn ei diflaniad, bu dros 100 o wirfoddolwyr yn chwilio am Ms Morris, gan gynnwys aelodau o Glwb Rygbi Treharris.

Cafodd ei gweld am y tro diwethaf y tu allan i'w chartref yn Bontnewydd Terrace, Trelewis.

Mae'r heddlu wedi diolch i'r gymuned leol am eu cymorth yn y chwilio.