Sioc dau gyn-filwr o gwrdd eto ar ôl 60 mlynedd

Ffynhonnell y llun, Elfed a Rita Bullock

Disgrifiad o'r llun, Mae 60 mlynedd rhwng y llun o Elfed Bullock a Gwilym Williams yn y fyddin (Elfed ar y dde, Gwilym ar y chwith) ac yn cyfarfod yn annisgwyl yn yr Alban yn 2019 (Gwilym ar y dde, Elfed ar y chwith)

Faint mae rhywun yn ei newid mewn 60 mlynedd?

Ar ôl cyfarfod â'i gilydd ar wyliau yn yr Alban bu Elfed Bullock a Gwilym Williams yn sgwrsio gyda'i gilydd am ychydig o funudau cyn cael sioc o sylweddoli eu bod nhw'n adnabod ei gilydd yn barod.

Roedd y ddau gyn-filwr o ogledd Cymru yn gwasanaethu yn y fyddin yng Nghyprus yr un pryd yn y 1950au ond heb weld ei gilydd ers 60 o flynyddoedd.

Er eu bod wedi byw ddim ond 40 milltir oddi wrth ei gilydd ar hyd eu hoes - Elfed ym Methesda a Gwilym yn Llandyrnog ger Rhuthun - doedd eu llwybrau ddim wedi croesi ers 1959.

Ond pan ddigwyddodd y ddau fynd ar yr un daith i'r Alban gyda chwmni bysiau o Bwllheli fis Gorffennaf 2019, fe gymerodd ychydig o amser iddyn nhw adnabod ei gilydd!

Dechrau sgwrs

"Stopiodd y bws i bawb gael hoe," esboniodd Elfed ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru.

"Roedd dros 40 o bobl ar y bws ac wrth gerdded i fyny am y lle paned dyma daro ar ddau oedd ar y bws efo ni a dyma ddechrau siarad."

Bu Rita, gwraig Elfed yn siarad efo Myfanwy, gwraig Gwilym, a tharodd Elfed ar sgwrs gyda'i gŵr.

"Dyma fi'n dechrau gofyn 'O lle 'dach chi'n dwad?'" meddai Elfed.

"A dyma fo'n dweud, Llandyrnog ger Denbigh.

"A dyma fo'n gofyn 'O lle 'dach chi'n dŵad?'

"'O Bethesda yn wreiddiol', meddwn i.

"'Duwcs', medda fo, 'oedd na hogyn o Bethesda yn yr armi efo fi'."

'Wel, w'ti'n siarad efo'r cradur'

Gofynnodd Elfed a oedd yn cofio cyfenw'r milwr o Fethesda. Rhoddodd Gwilym y cyfenw Bullock, sydd yn enw anghyffredin ym Methesda.

Roedd tri o frodyr Elfed yn y fyddin o'i flaen ac felly meddyliodd efallai mai un ohonyn nhw roedd Gwilym yn ei adnabod. Felly holodd beth oedd enw cyntaf y milwr.

"A dyma fo'n deud yn syth, 'Elfed' - bobl bach o'n i 'di dychryn bod o'n cofio, a sut roedd o'n cofio fi?" meddai Elfed.

"'Wel, w'ti'n siarad efo'r cradur' medda fi!"

"Roeddwn i'n ei 'nabod o'n iawn pan oedden ni yn Wrecsam a Cyprus a Berlin," meddai Gwilym gan gyfaddef nad oedd wedi adnabod Elfed o gwbl wrth ddechrau sgwrsio.

Ffynhonnell y llun, Elfed a Rita Bullock

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Gwilym (ar y dde, rhes gefn) ac Elfed (ar y chwith, rhes gefn) ar eu gwasanaeth cenedlaethol yn y fyddin yn Wrecsam yn 1957

Roedd y ddau wedi bod yn y fyddin gyda'i gilydd yn yr Almaen a Chyprus, lle roedd gwrthryfel yn erbyn rheolaeth Prydain o'r ynys fel coloni yn y 1950au.

Roedd yn waith peryglus meddai Gwilym ac roedden nhw yno i geisio dal arweinydd eglwysig y gwrthryfel, Makarios.

Gyrrwr oedd gwaith Gwilym tra roedd Elfed yn gweithio yn y storfa arfau.

Doedd y ddau ddim wedi gweld ei gilydd ers gadael y fyddin yn Wrecsam yn 1959 ar ddiwedd eu gwasanaeth milwrol a heb gyfarfod.

"Mewn 60 mlynedd roedd y ddau ohonon ni wedi newid, 'toeddan?" meddai Elfed.

Ysgrifennodd Elfed am y profiad yn ei bapur bro lleol, Llais Ogwan: "Pwy fasa'n meddwl, 60 mlynedd yn ddiweddarach, y byddem yn cyfarfod â'n gilydd ar daith wyliau i'r Alban. Dyma gyd-ddigwyddiad llwyr oedd yn teimlo fel gwyrth!

"Rydym dal mewn sioc o feddwl bod y cyfarfod yma wedi digwydd!"

Hefyd o ddiddordeb: