Mwy o le i deithwyr ar drenau Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud y bydd yna le ar gyfer hyd at 6,500 o deithwyr ychwanegol ar y trenau yng Nghymru o fis Rhagfyr.

Yn ôl y cwmni bydd hyn yn cynnwys mwy o drenau gyda phedwar cerbyd yn teithio ar hyd Llinellau'r Cymoedd.

Hefyd bydd teithwyr sy'n teithio ar rai gwasanaethau rhwng Gogledd Cymru a Manceinion yn teithio ar gerbydau mwy modern 'Mark 4 intercity'.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

"Mae ein hymchwil ymysg cwsmeriaid yn dangos bod gallu eistedd neu sefyll yn gyfforddus ar drên yn flaenoriaeth uchel i nifer o bobl, ac felly rydyn ni'n gobeithio y bydd ein cwsmeriaid yn croesawu'r cynlluniau a fydd yn golygu cynnydd mawr mewn capasiti ar gyfer mis Rhagfyr.

"Rydyn ni hefyd yn falch ein bod yn gwella'r profiad cyffredinol i deithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau rhwng Cheltenham a Maesteg, a rhwng Caerdydd a Glynebwy drwy gyflwyno trenau hygyrch sy'n fwy modern.

Ymddiheuro

Dywed Trafnidiaeth Cymru y bydd teithwyr rhwng Cheltenham a Maesteg a rhwng Caerdydd a Glynebwy yn defnyddio trenau modern Dosbarth 170 sydd â rhagor o le, systemau gwybodaeth i deithwyr, toiledau hygyrch, system awyru, wi-fi a socedi pŵer.

Mae'r cwmni hefyd wedi cadarnhau fod y cynllun i ddarparu trenau Dosbarth 769 newydd yn rhedeg yn hwyr.

Yn y cyfamser fe fydd cwmni Porterbrook, cyflenwr y trenau Dosbarth 769, yn darparu trenau Dosbarth 153 ychwanegol tan fydd y trenau Dosbarth 769 ar gael i'w defnyddio.

Dywedodd Mary Grant, Prif Swyddog Gweithredol Porterbrook: "Mae rhai o gynlluniau TrC dibynnu ar ein trenau Dosbarth 769 arloesol.

"Mae cyflwyno'r trenau hyn wedi disgyn ar ei hôl hi ac rydyn ni'n ymddiheuro am hynny.

"Rydyn ni'n gweithio gyda TrC a'n cadwyn gyflenwi i ddarparu'r trenau hyn cyn gynted ag sy'n bosibl," meddai.

"Yn y cyfamser, rydyn ni wedi darparu ein hunedau Dosbarth 170 yn gynt ac rydyn ni hefyd yn darparu cerbydau ychwanegol er mwyn llenwi'r bwlch ar gyfer y trenau Dosbarth 769 ac er mwyn cefnogi TrC a'u teithwyr."