Â鶹ԼÅÄ

Boris Johnson: Ymateb chwyrn gan ASau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Boris Johnson ei feirniadu am ei iaith yn ystod y ddadl nos Fercher

Mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol Cymru, Stephen Crabb, wedi dweud fod sylwadau'r prif weinidog yn NhÅ·'r Cyffredin nos Fercher wedi ei syfrdanu.

Dywedodd Mr Crabb bod dyletswydd ar Boris Johnson "i leihau lefel y gwenwyn yn ein gwleidyddiaeth".

Wrth iddo annerch y senedd fe wnaeth Mr Johnson ddefnyddio geiriau fel "surrender" a "betray".

Ond pan gafodd ei herio gan un AS Llafur a soniodd am lofruddiaeth yr AS Jo Cox, fe wnaeth Mr Johnson wfftio'i sylwadau fel "humbug".

'Dod ag undod i'r wlad'

Dywedodd AS Preseli Penfro, Mr Crabb wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales: "Mae ganddo gefnogaeth gref ymysg ASau Ceidwadol am geisio datgloi Brexit.

"Ond mae ganddo ddyletswydd fel prif weinidog i geisio dod ag undod i'r wlad a lleihau lefel y gwenwyn yn ein gwleidyddiaeth.

"Fe gefais fy syfrdanu gan y modd yr ymatebodd i'r sylwadau am Jo Cox."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stephen Crabb ei fod wedi'i syfrdanu gan sylwadau Boris Johnson

Daeth y ddadl danbaid yn y senedd ddiwrnod wedi i'r Goruchaf Lys farnu bod Mr Johnson wedi diddymu'r senedd yn anghyfreithlon.

Ar raglen Post Cyntaf fore Iau fe alwodd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith, arno i ymddiheuro am hynny.

"Neithiwr pan ofynnodd Paula Sherriff iddo i gymedroli ei iaith, roedd ei ymateb yn gwbl annerbyniol," meddai.

"I ddefnyddio'r gair 'humbug' yn hytrach na chamu 'nôl - pa fath o esiampl yw hynny?"

'Ysgogi trais'

Fe wnaeth AS Llafur dros Ogledd Caerdydd, Anna McMorrin drydar nos Fercher: "Does dim geiriau i fynegi fy arswyd am ymddygiad Johnson heno.

"Fe ddywedais wrth y TÅ· ei bod yn embaras bod yn aelod seneddol heddiw.

"Mae ei iaith yn ysgogi trais. Nid yw'n dangos unrhyw arwydd o edifeirwch na gostyngeiddrwydd ac mae'n parhau i annog rhaniadau. Mae'n rhaid iddo fynd."

Roedd rhai yn amddiffyn Mr Johnson. Ar Radio Wales fore Iau dywedodd AS Mynwy, David Davies, fod cyhoeddiad y Goruchaf Lys yn "anghywir" ac nad oedd angen i Mr Johnson ymddiheuro.

Pan ofynnwyd iddo am sylwadau Mr Johnson nos Fercher, dywedodd fod iaith rhai aelodau Llafur yn ofnadwy, ac nad oedd yn gweld problem gydag ieithwedd Mr Johnson.