"Ydw i dal i fod yn ddysgwr?"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Aran gyda'i wraig Catrin a'r plant Angharad Lliar a Beuno LlÅ·n

Mae'r Gymraeg wedi bod yn rhan flaenllaw ym mywyd Aran Jones am bron i 20 mlynedd. Felly, ydy e dal i fod yn 'ddysgwr'?

Yma, mae Aran yn gofyn a oes angen term arall ar gyfer rhywun sy'n dysgu'r Gymraeg?

Ers talwm, roedd yna gred cyffredinol bod y Cymry Cymraeg yn cynnig croeso llugoer i ddysgwyr yr iaith. Roedd fy nhaid fy hun yn adnabyddus yn y teulu am ymateb yn chwyrn i unrhyw ymdrech i ddefnyddio'r iaith nad oedd yn berffaith gywir.

Mae ymwybyddiaeth newydd erbyn hyn, fodd bynnag, bod rhan bwysig i ddysgwyr chwarae wrth ennill dyfodol disglair i'r Gymraeg.

Un arwydd o hyn ydy'r drafodaeth am sut i gyfeirio at ddysgwyr - siaradwyr newydd, siaradwyr ail-iaith, neu rywbeth arall?

Term negyddol?

Mae'n drafodaeth sydd yn codi o dro i dro ar fforwm trafod , y cwmni dysgu wnes i gyd-sefydlu. Mae'n wir bod rhai yn gweld y term 'dysgwyr' yn negyddol, ond dwi'n amau os ydy hynny'n golygu bod angen newid.

Mae'n bosib, yn fy marn i, mai rhywbeth dros dro ydy'r teimladau negyddol, sydd yn deillio yn bennaf o'r ansicrwydd naturiol sydd yn rhan o ddysgu unrhyw iaith newydd.

Cofiaf y teimlad fy hun. Unwaith, ar ôl i ffrind i mi fy nghyflwyno i ddwy o'u ffrindiau hi, dyma hi'n datgan: "Fyddech chi byth yn credu bod hwn 'di dysgu, na fyddech?".

Bod yn garedig oedd hi, wrth gwrs. Ond, wel, yr embaras ges i - y cywilydd, yr awydd i guddio, i gael bod yn normal wrth siarad Cymraeg, yn lle cael bisged fel ci bach da.

Ond a fyddai'n ddoeth i wneud i siaradwyr Cymraeg deimlo'n chwithig ac yn ansicr am siarad gyda dysgwyr? I boeni bod nhw am ddefnyddio'r term 'anghywir'?

Wedi'r cyfan, y peth pwysig ydy bod siaradwyr Cymraeg yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ymarfer a defnyddio'r iaith trwy siarad gyda nhw. Y lleiaf sicr byddan nhw'n teimlo am y ffordd 'gywir' i gyfeirio at ddysgwyr, lleiaf tebyg byddan nhw o wneud hynny.

Balchder

Credaf y bydd y teimladau, gan amlaf, yn cilio wrth i hyder y dysgwr ddatblygu.

Erbyn hyn, does dim ansicrwydd gen i am siarad Cymraeg. Er na fydda i byth yn ei siarad hi'n berffaith, mae wedi bod yn rhan feunyddiol o'm mywyd am bron i 20 mlynedd. Mae hi'n iaith gyntaf fy mhlant, ac yn iaith yr aelwyd eto yn fy nheulu.

Os ydy rhywun yn sylwi nad fy iaith gyntaf mohoni, dwi bellach yn medru clywed y ganmoliaeth yn hytrach na baglu yn y cywilydd. Cywilydd, wir? Am ddysgu'r iaith ges i fy amddifadu ohoni? Balchder sydd gen i erbyn hyn.

Disgrifiad o'r llun, Jeremy Vine yn cael gwers Gymraeg gan Aran Jones ar Ddydd Gŵyl Dewi 2019

Ai dysgwr ydw i, felly, dal i fod? Y gwir ydy mae'r cwestiwn yn teimlo'n llwyr amherthnasol.

I'r rhai sydd yn teimlo'n chwithig am glywed eraill yn eu galw yn ddysgwyr, hoffwn ddweud dim ond hyn - daliwch ati, siaradwch bob cyfle daw, a bydd yr iaith yn rhan gynyddol fawr o'ch bywyd, hyd nes bydd dim ots ganddoch chi pa enw mae rhywun arall yn rhoi i chi.

Dysgwr, siaradwr newydd, siaradwr - anghofiwch hynny oll. Cymraeg byddwch chi erbyn hynny - dyna i gyd - y peth lleiaf a mwyaf un, ac yn dal i ddysgu bob dydd fel pawb arall ohonom.

Hefyd o ddiddordeb: