Arwydd ffordd yn 'anharddu' golygfa eiconig Llanrwst

Disgrifiad o'r llun, Mae'r arwydd yn rhybuddio gyrrwyr sy'n dod o gyfeiriad y gogledd bod rhaid iddyn nhw ildio i draffig o'r cyfeiriad arall

Mae perchnogion parlwr te yn Llanrwst yn pryderu fod un o'r golygfeydd mwyaf poblogaidd yng Nghymru wedi cael ei ddifetha ar ôl i arwydd ffordd fawr gael ei godi gerllaw.

Cafodd yr arwydd ei godi ger y bont sy'n croesi afon Conwy yn gynharach eleni, yn rhybuddio gyrwyr i roi blaenoriaeth i eraill.

Yn ôl Tim Maddox, sydd wedi rhedeg parlwr te Tu Hwnt i'r Bont gyda'i wraig Ayla ers 16 mlynedd, does dim modd i ymwelwyr dynnu llun o'u caffi o'r bont nawr oherwydd yr arwydd.

Dywedodd Cyngor Conwy fod yr arwydd yn bwysig oherwydd pryderon am ddiogelwch traffig, ond eu bod nhw'n fodlon ystyried opsiynau arall.

"Mae nifer fawr iawn o bobl yn dod i dynnu llun o'r adeilad yr adeg yma o'r flwyddyn, am fod y planhigyn dringol sy'n gorchuddio'r lle yn newid lliw," meddai Mr Maddox

"Oherwydd eu bod nhw wedi rhoi'r arwydd lle mae o does dim modd i chi dynnu llun o'r bont oherwydd bydd yr arwydd yng nghanol y llun nawr.

"Mae cannoedd ar gannoedd o bobl yn dod yma i dynnu llun ohono, a bob bore mae tua 30 o bobl yn tynnu llun ohono, ond nawr mae ganddyn nhw gefn arwydd llwyd yn eu llun."

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Fe arferai fod arwydd ochr arall y bont, ymhell oddi wrth y fan lle mae pobl yn tynnu lluniau, ond cafodd ei dynnu oddi yno a chafodd arwydd mwy yn rhybuddio gyrwyr sy'n dod at y bont o gyfeiriad y de bod angen ildio i draffig o'r cyfeiriad arall.

Cafodd yr arwydd newydd ei godi cyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Llanrwst fis Awst, ac yn ôl Mr Maddox mae'n anharddu'r olygfa enwog.

"Hoffwn i weld yr arwydd yn cael ei dynnu i lawr yn gyfan gwbl achos mae'r bont wedi bod yna ers 500 mlynedd a doedd dim angen arwydd o'r blaen."

"Mae yn y lle anghywir hefyd, oherwydd erbyn ei bod yn ei weld mae'n rhy hwyr i weithredu.

"Os oes rhaid cael arwydd o gwbl, byddai'n well ei roi cyn i chi ddod at y bont."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Conwy fod yr arwydd yn angenrheidiol yn dilyn pryderon am ddiogelwch traffig ar y bont, ond y bydden nhw'n fodlon ystyried opsiynau arall.

"Mae'r parlwr te drws nesaf i strwythur eiconig arall, sef Pont Fawr, sy'n bont o'r 17eg ganrif ac mae'n wynebu heriau traffig yn aml," meddai'r llefarydd.

"Llwybr un ffordd ydy'r bont, ac mae hynny'n achosi trafferthion i yrwyr sydd yn ansicr pwy sydd â'r hawl i groesi yn gyntaf.

"Mae hyn yn achosi oedi, ac ar adegau mae cerbydau wedi cael eu gorfodi i fynd am yn ôl er mwyn datrys tagfeydd.

"Cafodd yr arwydd ei godi er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r trafferthion. Fodd bynnag fe fydden ni'n fodlon ystyried opsiynau arall."