鶹Լ

Wood 'wedi torri rheolau' cod ymddygiad, medd pwyllgor

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood

Mae pwyllgor safonau'r cynulliad wedi penderfynu fod cyn arweinydd Plaid Cymru wedi torri cod ymddygiad wrth ddefnyddio gair rheg i feirniadu blogiwr.

Fe gyhoeddodd Leanne Wood y neges ar Twitter mewn ymateb i feirniadaeth gan Royston Jones, sy'n blogio dan yr enw Jac o' the North, ynglŷn â'r AC Delyth Jewell.

Roedd Ms Jewell newydd ei dewis i olynu'r diweddar Steffan Lewis fel AC Dwyrain De Cymru, ac roedd sylw Mr Jones yn cyfeirio at ei ddiddordebau.

Yn ôl y pwyllgor roedd iaith Ms Wood yn ei hymateb yn "anaddas", ond mae hi'n dweud nad yw'n difaru ei defnydd o eiriau.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan LeanneWood 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r 鶹Լ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan LeanneWood 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwnaed cwyn am sylw Ms Wood gan unigolyn arall.

Dywedodd y comisiynydd safonau, Syr Roderick Evans, ar ôl ymchwilio i'r achos fod "modd ymateb yn briodol a herio" gosodiadau Jac o' the North "mewn sawl ffordd".

Ychwanegodd: "Yn fy marn i, doedd dim ohonynt yn gofyn i AS ddefnyddio iaith aflednais."

Yn dilyn ymchwiliad Syr Roderick fe gytunodd y pwyllgor safonau gyda'i gasgliadau fod y trydar yn groes i'r cod safonau, gan argymell ceryddu Ms Wood - penderfyniad fydd angen cydsyniad y Cynulliad.

Dywedodd Ms Wood mewn ymateb i'r casgliadau: "Dwi ddim yn difaru defnyddio'r unig fath o iaith mae rhywun fel Jones yn ei ddeall."

Ymatebodd Mr Jones ar Twitter gan ddweud bod "angen i rai pobl ddysgu bod beirniadu gwleidydd benywaidd ddim yn atgasedd at fenywod, ac i stopio defnyddio'r gair [misogyny] i dawelu beirniaid".