Â鶹ԼÅÄ

Galw am wersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "annog pawb sy'n gwneud Cymru yn gartref iddynt ddysgu Cymraeg"

Mae mudiad iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am wrthod darparu gwersi Cymraeg am ddim i ffoaduriaid.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwersi Saesneg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae ceiswyr lloches yn cael eu gwahardd rhag gweithio gan fyw ar £5.39 y diwrnod, ac felly '"nid oes modd iddynt dalu am wersi".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi bolisi o "gefnogi pob unigolyn yng Nghymru i gael y cyfle i ddysgu Cymraeg".

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, maen nhw wedi derbyn llythyr gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, yn dweud nad yw hi am ddarparu gwersi Cymraeg oherwydd "nid ydym am i'r drefn [o ffioedd am wersi Cymraeg] wahaniaethu rhwng unrhyw grwpiau penodol o ddysgwyr".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dysgu Cymraeg Casnewydd yn cynnig gwersi i fewnfudwyr i'r ardal

Dywedodd Tamsin Davies o'r mudiad: "Rydym yn hynod siomedig bod y gweinidog wedi gwneud datganiad adweithiol sy'n cyfrannu at allgau rhai grwpiau o'r Gymraeg, tra ei bod yn honni ei bod yn trin pawb yr un peth.

"Mae'r polisi presennol sy'n caniatáu codi ffi ar geiswyr lloches i ddysgu Cymraeg yn camwahaniaethu yn eu herbyn nhw.

"Mae cynllun clodwiw'r llywodraeth i wneud Cymru'n 'Genedl Noddfa' yn nodi y bydd y llywodraeth yn 'sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu cynnwys mewn cyfleoedd i ddysgu Cymraeg'.

"Mae gwersi Saesneg ar gyfer y grwpiau yma am ddim, felly does dim amheuaeth na ddylai gwersi Cymraeg fod am ddim hefyd."

'Annog pawb i ddysgu'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fel yr ydym wedi nodi yn ein cynllun cynhwysfawr ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, rydym am gefnogi ac annog pawb sy'n gwneud Cymru yn gartref iddynt ddysgu Cymraeg.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r ganolfan dysgu Cymraeg cenedlaethol sy'n treialu nifer o raglenni i helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddysgu Cymraeg.

"Ein huchelgais yw cael miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, ac rydym wrthi'n hyrwyddo polisi i gefnogi pob unigolyn yng Nghymru i gael y cyfle i ddysgu Cymraeg."