Â鶹ԼÅÄ

'Pryder sylweddol' arolygwyr am wasanaethau addysg Powys

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Powys

Mae gwasanaethau addysg Cyngor Powys yn peri pryder sylweddol ac angen eu monitro, yn ôl yr arolygaeth addysg Estyn.

Dywedodd arolygwyr bod perfformiad nifer o ysgolion uwchradd y sir yn wan a bod y cyngor wedi methu â dod i'r afael â phroblemau ariannol mewn rhai ysgolion.

Mae'r adroddiad, sy'n dilyn arolwg ym mis Gorffennaf, yn beirniadu diffyg cynnydd wrth geisio gostwng nifer y llefydd gwag yn nosbarthiadau'r sir.

Dywedodd y cyngor byddai canfyddiadau'r arolwg yn cael eu defnyddio i wella canlyniadau ar gyfer dysgwyr y sir.

'Niferoedd yn disgyn'

Powys yw'r unig awdurdod lleol sy'n peri "pryder sylweddol" i Estyn.

Dywedodd arolygwyr bod gan arweinwyr y sir weledigaeth glir ynglŷn â sut i wella gwasanaethau addysg, ond doedd hynny ddim wedi cael effaith ddigonol, ac "araf yn gyffredinol yw'r cynnydd".

Roedd sawl maes yn "peri pryder sylweddol", yn ymwneud â "threfniadaeth ysgolion, rheolaeth ariannol, llywodraethu ysgolion, diffyg gweithredu mewn perthynas ag ysgolion sy'n achosi pryder a chydlynu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt".

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg cynnydd wrth ad-drefnu ysgolion, gan gynnwys hepgor cynlluniau ar gyfer ysgolion uwchradd yn ne'r sir a gwneud ond "ychydig iawn o gynnydd" wrth ddod i'r afael â heriau addysg ôl-16.

"Er bod yr awdurdod lleol, dros lawer o flynyddoedd, wedi lleihau nifer yr ysgolion y mae'n eu cynnal, mae'r gyfradd newid wedi bod yn rhy araf i gyd-fynd â'r gostyngiad mewn niferoedd disgyblion," dywedodd Estyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Estyn bod nifer o ddisgyblion yn dewis gadael Powys yn hytrach na mynd i adrannau chweched dosbarth y sir

Fe ddywedodd arolygwyr bod mwy o ddisgyblion yn dewis mynd i goleg neu i ysgolion y tu allan i Bowys yn hytrach nag astudio yn adrannau chweched dosbarth y sir.

"Mae hyn wedi arwain at lefelau sylweddol is o gyllid ar gyfer dosbarthiadau chwech a lleihau'r cwricwlwm a gynigiant."

Mae'r adroddiad hefyd yn crybwyll "diffyg her effeithiol yn hanesyddol i ansawdd rheolaeth ariannol mewn ysgolion", sydd wedi golygu bod rhai ysgolion wedi cynnal diffygion am flynyddoedd, tra bod 'na enghreifftiau o ddiffygion yn tyfu i'r fath raddau na fydd hi'n bosib iddyn nhw ddod i'r afael â'r sefyllfa o fewn pum mlynedd.

Ychwanegodd yr arolygwyr bod yr awdurdod lleol wedi bod yn rhy araf i ddefnyddio'i bwerau ac mae diffyg craffu a herio wedi bod o fewn y cyngor, a bod aelodau etholedig wedi bod yn rhy amharod i gymryd camau digon cadarn.

"Dros y pum mlynedd diwethaf, roedd gormod o ysgolion mewn categori peri pryder i Estyn, ac mae gormod o ysgolion yn parhau â diffygion uchel yn eu cyfrifon," dywedodd yr adroddiad.

'Rhaid gwneud mwy'

Er bod gan y cyngor "weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol" a'r prif weithredwr newydd wedi dod ag "egni newydd" at yr heriau, dim ond megis dechrau mae'r broses.

Ymhlith pryderon eraill Estyn oedd:

  • bod cyfradd gwaharddiadau o'r ysgol yn uchel;

  • dim digon o ystyriaeth i'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog;

  • "cydlynu, gwerthuso a chynllunio annigonol" ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;

  • record wan o ysgogi twf addysg cyfrwng Cymraeg - "O ganlyniad, mae cyfran y disgyblion sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg wedi aros yr un fath dros y blynyddoedd diwethaf".

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Cabinet Powys ar faterion Dysgu a'r Iaith Gymraeg bod angen gweithio'n fwy effeithiol gydag ysgolion, cyrff llywodraethu a chymunedau i gynnal a gwella perfformiad.

"Mae gennym eisoes nifer o ysgolion llwyddiannus iawn sy'n darparu safonau rhagorol," meddai, "ond rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod pob un o'n bobl ifanc yn cael yr un cyfleoedd ledled y sir.

"Ni fydd hi'n hawdd cyflawni rhagoriaeth yn erbyn cefndir o bwysau cyllidebol difrifol ond rydyn ni'n benderfynol i wneud ein gorau glas ar gyfer ein holl ddysgwyr."