Ymchwiliad i gamdriniaeth 'ofnadwy' o ddefaid gan ladd-dy

Ffynhonnell y llun, Animal Aid

Disgrifiad o'r llun, Mae lluniau CCTV yn dangos y modd mae defaid yn cael eu trin yn y lladd-dy ger Wrecsam

Mae elusen wedi galw am wneud camerâu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ar ôl iddyn nhw honni eu bod wedi datgelu creulondeb tuag at anifeiliaid mewn lladd-dy ger Wrecsam.

Dywedodd Animal Aid bod ei ymchwilwyr wedi gosod camerâu cudd ar ymweliadau â lladd-dy Farmers Fresh yn ardal Cross Lanes yn gynharach eleni.

Yn ôl yr elusen mae'r fideos yn dangos defaid yn cael eu lladd heb gael eu llonyddu'n gywir, ac yn cael eu llusgo gerfydd eu coesau a'u gyddfau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "cymryd lles anifeiliaid mewn lladd-dai o ddifrif".

Disgrifiad o'r llun, Mae ymchwiliad troseddol bellach i'r sefyllfa ar safle Farmers Fresh yn ardal Cross Lanes

Dydy CCTV ddim yn orfodol yn lladd-dai Cymru, ac mae Animal Aid eisiau i Lywodraeth Cymru ei gyflwyno fel "amddiffyniad angenrheidiol".

Dywedodd rheolwr ymgyrchoedd Animal Aid, Tor Bailey: "Heb ein camerâu cudd ni mewn lle, fe allai'r sefyllfa ofnadwy yma fod wedi parhau am beth amser.

"Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno CCTV gorfodol, sy'n cael ei fonitro'n annibynnol, ledled Cymru heb oedi."

Mae RSPCA Cymru wedi dweud ei fod yn cytuno ag Animal Aid bod angen cyflwyno deddfwriaeth.

"Rydyn ni'n credu y byddai cyflwyno systemau CCTV yn rhoi mwy o hyder i'r cyhoedd ynglŷn â safon bywydau anifeiliaid fferm mewn lladd-dai," meddai llefarydd.

Ymchwiliad troseddol

Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd eu bod wedi lansio ymchwiliad troseddol.

"Fe wnaethon ni weithredu'n sydyn er mwyn cynyddu ein presenoldeb yn Farmers Fresh yn Wrecsam a chyflwyno mwy o fesurau i sicrhau bod lles anifeiliaid yn cael ei ddiogelu," medden nhw mewn datganiad.

Ffynhonnell y llun, Animal Aid

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth elusen Animal Aid osod camerâu cudd ar ymweliadau â'r lladd-dy

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n cymryd lles anifeiliaid mewn lladd-dai o ddifrif.

"Gan fod ymchwiliad troseddol wedi'i lansio, ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran Farmers Fresh nad oedd gan y cwmni sylw i'w wneud ynglŷn â'r mater.