Ateb y Galw: Yr actor Dion Davies

Ffynhonnell y llun, Dion Davies

Yr actor Dion Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aeron Pughe yr wythnos diwethaf.

Mae Dion yn wyneb adnabyddus i wylwyr rhaglenni plant S4C, fel Jim yn Jen a Jim Pob Dim, ac un hanner y brodyr hwyliog, Y Doniolis.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Pan o'n i'n bedair mlwydd oed o'n i'n ysbyty'r Waun yn gwella wedi triniaeth ar fy ngwddf (ges i ngeni heb oesophagus, y biben fwyd) a phenderfynais fwyta pwdin siocled meddal. Yn anffodus oedd y pwythau yn fy nhwddf heb gau yn iawn ac felly dechreuodd y pwdin lifo allan o'r graith dros fy mhyjamas a nes i banicio'n llwyr cyn i Mam esbonio'r sefyllfa a cwlio fi lawr. Ma'n atgof eithaf traumatic!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Natalie Imbruglia.

Ffynhonnell y llun, Frank Trapper

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Natalie Imbruglia lawer o wobrau (a ffans) am ei sengl 'Torn' yn 1997

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Meddwl bo' fi'n boddi yn y môr yn Barbados ond pan 'nath rhywun weiddi arna'i i sefyll lan, o'dd y môr dim ond yn cyrraedd fy nghanol... O'dd pawb ar y traeth yn chwerthin arna i am weddill y gwylie!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Diwedd Avengers: Endgame pan 'nath Tony Stark farw. Fi'n crïo mewn ffilmiau trwy'r amser.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Taro ambell rech a rhoi'r bai ar aelodau eraill y teulu

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Glantawela, Silian ger Llambed oherwydd dyma ble o'n i'n mynd ar fy ngwylie yn yr haf pan o'n i'n ifanc i aros gyda Wncwl Alun, Anti Ber a nghefndryd i, Guto ac Osian. Atgofion melys!

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson dathlu fy mhriodas gyda teulu, ffrindiau a'r Mrs wrth gwrs.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Cyfeillgar, cwrtais a charedig - er ma' fy ngwraig yn dweud mai 'gwahanol' yw'r gair iawn i ddisgrifio fi!

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Goodfellas - ma' fe'n glasur.

Ffynhonnell y llun, Archive Photos

Disgrifiad o'r llun, Mae Goodfellas, a gafodd ei ryddhau yn 1990, yn 'glasur'

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Gyda fy mrawd, achos ma' gyda ni'r un hiwmor a s'mo ni byth yn ca'l nosweth tawel yn cwmni'n gilydd!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fel soniais i, cefais fy ngeni heb oesophagus, felly cefais un wedi i greu allan o fy lower intestine pan o'n i'n bedair (a dyna pam dwi'n siarad gyment o g*chu!).

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Trefnu parti anferthol i fy nheulu a ffrindiau agosaf.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Imagine, John Lennon - ma' fe jest yn atgoffa fi o fy mhlentyndod pan glywes i fe'n gyntaf ac o'n i'n dwli ar yr alaw. Hyd heddiw ma'r geiriau hefyd yn meddwl rhywbeth i fi hefyd - er efallai braidd yn obeithiol yn yr amseroedd gwallgof sydd yn y byd heddiw!

Ffynhonnell y llun, Michael Ochs Archives

Disgrifiad o'r llun, Albwm John Lennon, Imagine, a gafodd ei ryddhau yn 1971 - arno oedd un o'i senglau enwocaf, sef hoff gân Dion

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Lobster i ddechrau, chateaubriand (fillet) a'r holl trimins i'r prif gwrs a wedyn pancakes tenau fy mam gyda hufen iâ Ben &Jerry'sPhish Food i orffen.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy mab Daniel er mwyn gweld y byd trwy lygaid plentyn unwaith eto, a gweld pa mor wahanol byddai plentyndod heddi i gymharu gyda fy mhlentyndod i.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Simon Watts