Tref Amlwch yn 'marw ar ei thraed', yn 么l cynghorydd

Disgrifiad o'r llun, Ers rhai blynyddoedd mae nifer o siopau a busnesau Amlwch wedi cau
  • Awdur, Liam Evans
  • Swydd, Gohebydd 麻豆约拍 Cymru

Mae angen buddsoddiad brys yn Amlwch rhag i gyflwr y dref waethygu ymhellach, yn 么l cadeirydd cyngor y dref.

Yn 么l Liz Wood mae "marwolaeth Amlwch wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd".

Roedd disgwyl i atomfa Wylfa Newydd gael ei adeiladu ger y dref, ond mae'r cynlluniau hynny bellach wedi'u hatal.

Dywedodd Cyngor Ynys M么n eu bod wedi "ymroddi i gefnogi gogledd yr ynys ac eisoes wedi gweithio gydag amryw o grwpiau cymunedol er mwyn cefnogi trigolion yr ardal".

&#虫27;叠濒锚谤&#虫27;

Yn 么l Ms Wood, sy'n gadeirydd Cyngor Tref Amlwch, mae cerdded i lawr prif l么n y dref yn "torri fy nghalon".

"Mae'r lle yn fl锚r ac os fyddai pobl yn dod yma 'sa nhw'n troi am yn 么l," meddai.

Dywedodd Ms Wood mai prinder swyddi a diwydiannau'n gadael yr ardal sy'n rhannol ar fai.

"Mae'r gwaith wedi mynd a does dim byd wedi dod yn eu lle nhw," meddai.

"Roedden ni fod i gael ffatr茂oedd, melinau gwynt a Wylfa Newydd. Dwi'n meddwl fod pobl wedi dibynnu gormod ar un peth yn dod i'r ardal fel saviour."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Liz Wood bod "marwolaeth Amlwch wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd"

Mae bron i 4,000 o bobl yn byw yng nghyffiniau'r dref ond ers rhai blynyddoedd mae nifer o siopau a busnesau yno wedi cau.

Yn 么l y cigydd lleol, Owen Roberts, mae problemau Amlwch yn debyg i nifer o drefi.

"Mae Amlwch wedi mynd lawr ond mae'n broblem ym mhob man," meddai.

"Mae rhywun yn teimlo bod Amlwch a Chaergybi wedi cael eu hanghofio."

Cefnogi 'mewn sawl ffordd'

Yn 么l Cyngor M么n mae "Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys M么n ac eraill yn cefnogi tref Amlwch mewn sawl ffordd".

Bwriad y cyngor ydy "darparu cyllideb i wella eiddo gwag yng nghanol y dref, a threfnu digwyddiadau lleol megis G诺yl Gopr 2020".

Maen nhw hefyd yn bwriadu parhau i gydweithio gyda mentrau lleol i roi rhagor o gefnogaeth i'r dref.