Cyngor M么n yn oedi cynllun ad-drefnu ysgolion

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Gallai'r cynlluniau fod wedi golygu cau neu uno Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch

Ni fydd cynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion ar Ynys M么n yn symud ymlaen tan i sawl cynllun tebyg arall gael eu cwblhau, yn 么l y cyngor.

Ym mis Hydref fe wnaeth Cyngor Ynys M么n gyflwyno cynlluniau fyddai wedi golygu uno Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch gydag ysgolion cynradd yn yr ardal, neu ei chau yn gyfan gwbl.

Y bwriad oedd lleihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion ar yr ynys.

Ond yn dilyn trafferthion i gyflawni cynlluniau eraill tebyg, mae swyddogion y cyngor wedi cadarnhau na fydd yn parhau 芒'r cynllun am y tro.

Roedd cynghorwyr yn bwriadu cau sawl ysgol yn ne'r sir ac uno eraill.

Ond roedd rhaid gwneud tro pedol ar 么l i'r Gweinidog Addysg ymchwilio i g诺yn yngl欧n 芒'r broses wrth benderfynu cau Ysgol Gymuned Bodffordd.

Dywedodd swyddog o'r cyngor wrth Wasanaeth Democratiaeth Leol y 麻豆约拍 na fyddai ymgynghoriad ar y sefyllfa yn Amlwch yn y flwyddyn academaidd hon.

"Roedd hynny'n dilyn penderfyniad y cyngor sir... i ddileu'r penderfyniad gwreiddiol o 2018 ar ddyfodol y ddarpariaeth addysg yn ardaloedd Llangefni a Seiriol," meddai'r swyddog.