Â鶹ԼÅÄ

Comisiynydd: 'Angen cynyddu defnydd dyddiol o'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Ers iddo ddechrau ar ei swydd fel Comisiynydd mae Aled Roberts wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud bod angen pontio'r bwlch rhwng addysg a byd gwaith er mwyn cynyddu'r defnydd dyddiol o'r iaith Gymraeg.

Bydd Aled Roberts yn cyflwyno araith ynglŷn â'i weledigaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddydd Llun.

Dechreuodd Mr Roberts ar ei waith ar 1 Ebrill ac yn ystod y tri mis diwethaf mae wedi bod ar daith o amgylch Cymru yn siarad â thros 500 o bobl er mwyn canfod beth yw realiti sefyllfa'r Gymraeg yn eu hardaloedd a'u cymunedau.

'Angen defnyddio'r iaith bob dydd'

"Rydw i'n adnabod sefyllfa ieithyddol fy ardal fy hun yn y gogledd-ddwyrain yn dda," meddai, "ond mae'n bwysig fod gen i ddarlun clir a gonest o'r sefyllfa ar draws Cymru.

"Rydw i hefyd am i fy nghynlluniau ar gyfer y swydd gael eu seilio ar y pethau sydd fwyaf perthnasol i fywydau pobl ar lawr gwlad.

"Mae tuedd i'r drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg ganolbwyntio yn ormodol ar statws yr iaith ac ar ystadegau am niferoedd siaradwyr.

"Y perygl gyda hynny yw y byddwn ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg i Iwerddon, lle mae yna 1.76 miliwn o bobl yn medru siarad Gwyddeleg, ond llai na 0.5% o'r rheiny yn ei siarad bob dydd.

"Rydw i am i'n gwaith ni ganolbwyntio ar gynlluniau wnaiff arwain at gynyddu defnydd dyddiol o'r Gymraeg."

'Cau ysgol yn lladd yr iaith'

Wedi ei daith dri mis, dywed Mr Roberts ei fod yn argyhoeddedig fod addysg Gymraeg yn "allweddol i greu siaradwyr Cymraeg a bod addysg drochi yn llwyddiannus iawn yn creu siaradwyr Cymraeg rhugl".

Ond dywedodd ei fod yn ymwybodol fod yna "brinder athrawon yn y sector addysg Gymraeg ar draws Cymru a diffyg cynllunio cenedlaethol ar gyfer trochi".

Dywed ei fod wedi clywed am "sefyllfaoedd lle roedd cau ysgolion gwledig wedi arwain at leihau defnydd o'r iaith mewn cymunedau".

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen i 70% o blant adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050

Yn ystod ei araith ym mhabell y cymdeithasau mae disgwyl iddo ddweud: "Fel swyddfa, byddwn yn gweithio i gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith.

"Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy'n gadael y system addysg a'r bobl sy'n dysgu'r Gymraeg yn gallu defnyddio'u sgiliau dwyieithrwydd.

"Byddwn yn defnyddio pob cyfle i hyrwyddo'r Gymraeg - yn y gweithle, gyda sefydliadau, gyda busnesau ac elusennau a gyda llunwyr polisi. Mi ddathlwn ni werth y Gymraeg, a'r hawliau i'w defnyddio."

Wedi ei daith gychwynnol o gwmpas Cymru, dywed Mr Roberts fod yna nifer o bethau y gellid eu dathlu am sefyllfa'r iaith.

"Ar y daith, mi gwrddais i â channoedd o bobl o bob oed, ym mhob rhan o Gymru, sy'n rhoi o'u hamser a'u hegni i gynnal gweithgarwch cymunedol yn y Gymraeg.

"Ymysg y Cymraeg a'r di-Gymraeg, mae yna ewyllys da ac agweddau cadarnhaol iawn tuag at yr iaith," ychwanegodd.