Â鶹ԼÅÄ

20% o gynnydd mewn troseddau â chyllyll yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynnydd o 20% yn nifer y troseddau difrifol yn ymwneud â chyllyll yng Nghymru y llynedd

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn lefelau trosedd Cymru, yn ôl ffigyrau swyddogol yr heddlu.

Fe gafodd 257,000 o droseddau eu cofnodi gan y pedwar llu yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2019 - cynnydd o 12% i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae cynnydd o 20% hefyd wedi bod yn nifer y troseddau difrifol yn ymwneud â chyllyll yng Nghymru.

Heddlu Gwent brofodd y cynnydd mwyaf mewn lefelau trosedd (20%) gyda Heddlu De Cymru yn gweld y cynnydd lleiaf (6%).

Roedd cynnydd o 16% yn nifer y troseddau gafodd eu cofnodi gan Heddlu Gogledd Cymru tra bod Heddlu Dyfed Powys wedi gweld cynnydd o 8%.

Cafodd 1,375 o achosion eu cofnodi y llynedd - 737 o'r rheini gan Heddlu De Cymru.

Dangosodd y ffigyrau bod cynnydd wedi bod hefyd mewn achosion o droseddau treisgar, lladrata a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus - ond mae'r ONS, sy'n casglu'r ystadegau, wedi nodi bod newidiadau i'r drefn yn ei gwneud hi'n anoddach i gymharu ffigyrau o flwyddyn i flwyddyn.

Yn gyffredinol mae'r lefelau trosedd yng Nghymru yn parhau i fod yn is nag yn Lloegr.

'Lefel isaf erioed'

Mae cyfradd y troseddau sy'n cael eu datrys yng Nghymru a Lloegr hefyd wedi gostwng i'r lefel isaf erioed, yn ôl data gan y Swyddfa Gartref.

Awgryma'r ffigyrau mai dim ond 7.8% o achosion arweiniodd at gyhuddiad neu ymddangosiad mewn llys dros yr un cyfnod.

Mae dirywiad o dros un pwynt canran wedi bod eleni, gyda 9.1% o droseddau'n cael eu datrys yn y flwyddyn flaenorol.