S4C ddim am gwtogi rhaglen Newyddion nos Wener i 10 munud

Disgrifiad o'r llun, O 2020 bydd rhaglen Newyddion yn symud i 19:30 ac yn parhau i fod yn hanner awr o hyd o nos Lun i nos Iau

Mae S4C wedi cadarnhau eu bod wedi cefnu ar gynlluniau i gwtogi hyd rhaglen Newyddion ar nos Wener.

O wanwyn 2020 ymlaen fe fydd Newyddion yn symud i 19:30 ac yn parhau i fod yn hanner awr o hyd o nos Lun i nos Iau.

Roedd adroddiadau ym mis Mai y byddai rhaglenni nos Wener yn newid i 10 munud o hyd, ond dywedodd y sianel mewn datganiad ddydd Mawrth y byddai slot 25 munud o hyd i'r rhaglen.

Daeth y cadarnhad wrth i'r sianel gyhoeddi bod gemau Uwch Gynghrair Cymru ar nos Wener yn symud i 20:00 er mwyn cyd-fynd â'r amserlen newydd.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, nad oes angen parhau gyda'r cynllun gwreiddiol o ganlyniad i'r cytundeb newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn ogystal mae S4C yn cynnal trafodaethau gyda'r Â鶹ԼÅÄ ynglÅ·n ag ymestyn bwletinau newyddion ar nosweithiau Sadwrn a Sul o 10 munud i 15.

Cafodd S4C eu beirniadu ar ôl cyhoeddi'r newidiadau gwreiddiol, gyda Bethan Sayed AC, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, yn dweud y byddai llai o gyfle i "Gymry Cymraeg ddysgu am yr hyn sydd yn digwydd yn eu bywydau pob dydd".

Ond ychwanegodd Mr Evans bod y sianel dal wedi ymrwymo i'r rhaglenni newyddion sy'n cael eu darparu gan y Â鶹ԼÅÄ.

Mae disgwyl i'r gemau cyntaf am 20:00 gael eu darlledu ar 16 Awst.