Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi gwrthwynebwyr timau Cymru yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Tlws Cynghrair Europa

Bydd Y Seintiau Newydd yn gorfod aros i weld pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr eleni tra bod Cei Connah yn wynebu tîm o Uwch Gynghrair yr Alban.

Bydd Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf - Y Seintiau Newydd yn wynebu enillwyr y gemau cyn-ragbrofol yn rownd gyntaf ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Daeth cadarnhad bydd Cei Connah, orffennodd yn ail yn Uwch Gynghrair Cymru yn wynebu Kilmarnock o'r Alban yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Mae MET Caerdydd a'r Barri eisoes wedi darganfod eu gwrthwynebwyr yn y rowndiau cyn-ragbrofol yr wythnos diwethaf.

Os bydd MET yn ennill yn erbyn FC Progrès Niederkorn o Lwcsembwrg, fe fyddan nhw'n wynebu Cork City o Weriniaeth Iwerddon yn y rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Trip i Norwy i wynebu FK Haugesunds fydd yn wynebu Y Barri os lwyddan nhw i guro Cliftonville o Ogledd Iwerddon yn eu gêm cyn-ragbrofol nhw.