Cadarnhad o gemau Ewropeaidd Y Barri a MET Caerdydd

Bydd y Barri yn wynebu trip i Ogledd Iwerddon a MET Caerdydd yn teithio i Lwcsembwrg yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa.

Daeth yr enwau allan o'r het ddydd Mawrth ym mhencadlys UEFA yn Nyon, Y Swistir.

Bydd Y Barri yn chwarae yn erbyn Cliftonville, a lwyddodd i gyrraedd Ewrop drwy ennill y gemau ail gyfle ar ôl gorffen yn bumed yn Uwch Gynghrair Gogledd Iwerddon.

Trip i Lwcsembwrg i wynebu FC Progrès Niederkorn, a orffennodd yn y pedwerydd safle yn eu prif gynghrair, sydd gan MET Caerdydd.

'Stadiwm Lecwydd'

Bydd y ddau dîm yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Lecwydd yng Nghaerdydd wedi i'r cae ym Mharc Jenner, cartref y Barri, fethu â chyrraedd gofynion UEFA.

Bydd cymal cyntaf yn gêm rhwng Y Barri a Cliftonville yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin gyda'r gêm oddi cartref ar 4 Gorffennaf ym Melffast.

Bydd MET Caerdydd yn chwarae oddi cartref yn Lwcsembwrg ar 27 Mehefin a gartref ar 4 Gorffennaf yn Stadiwm Lecwydd.

Os bydd y naill dîm yn llwyddo i ennill dros ddau gymal, bydden nhw'n camu ymlaen i'r rownd gyntaf o gemau rhagbrofol y gystadleuaeth.