Pennaeth addysg Powys yn ymddiswyddo wedi 9 mis yn y rôl

Ffynhonnell y llun, Geograph

Mae pennaeth addysg Cyngor Sir Powys wedi ymddiswyddo wedi naw mis yn y swydd yn dilyn toriadau o fewn yr awdurdod.

Fe gymrodd Alec Clark yr awenau ar ôl i swydd y cyfarwyddwr addysg gael ei dileu a chafodd addysg a gwasanaethau cymdeithasol eu huno.

Torrodd y cyngor wyth o 24 o swyddi arweinyddiaeth y llynedd er mwyn arbed £1.3m.

Gadawodd y cyfarwyddwr blaenorol y cyngor ar ôl methu â chael y swydd uchaf.

Bydd Dr Clark yn cymryd swydd newydd fel cyfarwyddwr ymddiriedolaeth addysg yn ne Lloegr.

Yn y cyfamser, galwodd arweinydd y grŵp Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion, James Gibson-Watt, am gyfarfod argyfwng o bob arweinydd grŵp gyda'r prif weithredwr Caroline Turner i drafod dyfodol y gwasanaeth ysgolion.