Â鶹ԼÅÄ

Sali Mali yn 50: Delweddau dros y degawdau

  • Cyhoeddwyd

Mae Sali Mali wedi gweddnewid dros y blynyddoedd, ond mae'r cymeriad a grëwyd gan yr awdur Mary Vaughan Jones a'r arlunydd Rowena Wyn Jones hanner canrif yn ôl yn dal yr un mor annwyl a phoblogaidd gan blant heddiw.

Dyma gipolwg ar sut mae'r cymeriad hoffus, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ar 19 Mehefin, wedi newid dros y blynyddoedd, mewn cyfres o gloriau llyfrau a lluniau:

Ffynhonnell y llun, Gwasg Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Crëwyd Sali Mali gyntaf yn 1969 gan yr awdur Mary Vaughan Jones a darluniwyd y cymeriad enwog gan yr artist Rowena Wyn Jones. Mae cenedlaethau o blant wedi dysgu darllen gyda'r llyfr hwn a'r gyfres o lyfrau a ddilynodd am Sali Mali a'i ffrindiau

Ffynhonnell y llun, GOMER
Disgrifiad o’r llun,

Sali Mali yn ei ffrog oren eiconig

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sali Mali ei phortreadu gan yr actores Rebecca Harries yn y cyfresi Caffi Sali Mali (o 1994) a Pentre Bach (o 2004) a sy'n dal i gael ei fwynhau gan wylwyr Cyw ar S4C

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cynhyrchwyd cyfres wedi ei hanimeiddio yn dilyn helyntion Sali Mali a Jac Do i S4C yn 2000. Meinir Lynch oedd awdures y gyfres ac roedd yn cael ei lleisio gan yr actor Rhys Ifans, a Cerys Matthews yn canu'r gân agoriadol. Mae'n dal i gael ei dangos ar wasanaeth Cyw.

Ffynhonnell y llun, Gwasg Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o arlunwyr wedi creu delwedd newydd i Sali Mali dros y blynyddoedd. Gary Evans yw artist y llyfr Dacw'r Gwcw, sy'n portreadu Sali Mali a chymeriadau eraill o'r gyfres deledu Pentre Bach (cyhoeddwyd yn 2010)

Ffynhonnell y llun, Gwasg Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Noson Tân Gwyllt Sali Mali, ysgrifennwyd gan Ifana Savill a darluniwyd gan Catrin Meirion (2016)

Ffynhonnell y llun, Gwasg Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Yr artist Simon Bradbury sydd wedi bod yn dylunio cymeriad Sali Mali ar gyfer y llyfrau mwyaf diweddar (2018)

Ffynhonnell y llun, Gwasg Gomer
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad arall Simon Bradbury i lyfr o waith Ifana Savill sydd wedi ei lansio yn arbennig i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50 oed eleni. Mae disgwyl i ysgolion a mudiadau meithrin drefnu partïon i nodi'r pen-blwydd.

Hefyd o ddiddordeb: