Oriel: Goreuon Eisteddfod yr Urdd

Am wythnos oedd hi ym Mae Caerdydd! Dyma rhai o'n hoff luniau o'r Eisteddfod...

Disgrifiad o'r llun, Roedd croeso i bawb i Eisteddfod Caerdydd a'r Fro
Disgrifiad o'r llun, Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrdd
Disgrifiad o'r llun, Gwenno o Bontypridd yn mwynhau neidio
Disgrifiad o'r llun, Rajasthan Heritage Brass Band yn diddanu'r picnicwyr ar risiau'r Senedd
Disgrifiad o'r llun, Y DJ adnabyddus Huw Stephens oedd Llywydd y Dydd ddydd Mawrth - ac fe gafodd gyfarfod â'r dyn ei hun, Mistar Urdd!
Disgrifiad o'r llun, Y model Jess Davies yn flogio o faes yr Urdd
Disgrifiad o'r llun, Er ei bod hi'n bwrw glaw ddydd Mercher, wnaeth hynny ddim amharu ar hwyl Amelie a'i brawd bach Seb
Disgrifiad o'r llun, Roedd yn rhaid i barti unsain ysgol Llanychllwydog godi'n gynnar er mwyn cyrraedd eu rhagbrawf nhw
Disgrifiad o'r llun, Roedd Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn yr Eisteddfod ddydd Mercher - ond nid i gystadlu
Disgrifiad o'r llun, Doedd y glaw ddim am stopio Elizabeth o Gwm Parc, Rhondda, rhag cael ei chips
Disgrifiad o'r llun, Roedd Shane Williams draw yn y Bae ddydd Gwener, i lansio Cwpan Criced y Byd
Disgrifiad o'r llun, Dwylo i fyny! Hwyl gyda swigod ar y maes
Disgrifiad o'r llun, Rhaid edrych eich gorau i ddod i'r Steddfod - jest gofynnwch i Dobby
Disgrifiad o'r llun, Elsa a Lois o Ynys Môn yn mwynhau ar y maes
Disgrifiad o'r llun, Iestyn Tyne - enillydd y gadair ddydd Iau, yw'r person cyntaf erioed i 'ennill y dwbl' sef coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Disgrifiad o'r llun, Ffion, Aisha a Leo, tri o gyflwynwyr newydd Ymbarél ar S4C - cyfres newydd i bobl ifanc sy'n dathlu amrywiaeth LHDT a hunaniaeth
Disgrifiad o'r llun, Enlli wrth ei bodd â'r llun mae Dad wedi ei dynnu ohoni hi â'i harwr, Mistar Urdd

Hefyd o ddiddordeb: