Apêl bachgen i arnofio rhag boddi wrth ddiolch i achubwyr

Ffynhonnell y llun, RNLI

Disgrifiad o'r llun, Bu'n rhaid i Jude Rees gael ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei sgubo ryw 300 medr i'r môr wrth badlo gyda'i deulu fis Awst y llynedd

Mae bachgen 10 oed a fu bron â boddi oddi ar arfordir Gŵyr yn annog pobl i gofio cyfarwyddyd syml all eu cadw'n fyw pe tasen nhw'n mynd i drafferthion oddi ar yr arfordir.

Cafodd Jude Rees ei sgubo gan gerrynt cryf fis Awst y llynedd wrth badlo gyda'i deulu yn ardal Pwll Glas yn Broughton Bay.

Ond wrth gwrdd â'r unigolion fu'n rhan o'r ymateb i'r digwyddiad a diolch iddynt am achub ei fywyd, mae Jude yn pwysleisio pwysigrwydd cyngor yr RNLI i arnofio ar y cefn ac osgoi cynhyrfu mewn amgylchiadau tebyg.

Dyna'r cyngor a gafodd yntau y llynedd gan fenyw leol, Ceri Saunders a aeth i'r dŵr i'w achub ar ôl gweld bod y cerrynt yn rhy gryf iddo nofio'n ôl i'r lan.

Disgrifiad o'r fideo, Dywed Jude ei bod yn diolch yn fawr i'r bobl a'i achubodd rhag boddi

Cafodd Jude a'i fam gyfle i gwrdd â Ms Saunders a gwirfoddolwyr bad achub Porth Tywyn wrth i'r RNLI gadarnhau bod 18 o bobl wedi marw oddi ar arfordir Cymru yn 2018.

Mae'r ystadegau'n dangos bod:

  • 94% o'r bobl fu farw - 17 allan o 18 - yn ddynion;
  • 39% rhwng 36 a 50 oed; a
  • 28% rhwng 19 a 35 oed.
  • Roedd 39% ddim wedi bwriadu mynd i'r dŵr, ac wedi gwneud hynny ar ôl llithro, baglu neu syrthio wrth gerdded neu redeg.

15 oedd nifer y marwolaethau ar gyfartaledd bob blwyddyn yn y cyfnod rhwng 2014 a 2018, ond roedd cyfanswm 2017 - wyth, a phob un yn ddyn - yn sylweddol is.

Dywed yr RNLI bod tywydd poeth haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd yn 2018 wrth i bobl heidio i'r arfordir, ond bod y ffigyrau'n dangos bod angen mwy o waith i leihau'r perygl ymhlith dynion.

Ffynhonnell y llun, RNLI

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Jude Rees gyfle i gwrdd â gwirfoddolwyr yng ngorsaf bad achub Porth Tywyn

Mae ymgyrch y gwasanaeth ar gyfer haf eleni yn cynghori'r cyhoedd i ymlacio ac arnofio ar y cefn os ydynt yn mynd i drafferthion mewn dŵr oer.

Trwy wneud hynny, yn hytrach na chynhyrfu a gorflino wrth geisio nofio, mae'n haws i reoli'r anadl ac osgoi llenwi'r ysgyfaint â dŵr.

Dywedodd Chris Cousens o'r RNLI: "Mae modd osgoi llawer o'r marwolaethau trasig ar yr arfordir os yw pobl yn deall y risgiau ac yn paratoi eu hunain trwy ymarfer y dechneg arnofio.

"Fe allai gwybod beth i'w wneud ar ôl syrthio i ddŵr oer fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw."

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys posteri a hysbysebion sinema, teledu, radio ac ar-lein.

Ffynhonnell y llun, RNLI

Disgrifiad o'r llun, Jude Rees gyda'i fam (tu ôl iddo) a Ceri Saunders (yn y canol) gydag aelodau bad achub Porth Tywyn

Roedd Jude Rees yn naw oed ac yn nofiwr hyderus pan aeth i drafferthion fis Awst y llynedd. Cafodd ei rieni eu sgubo i greigiau wrth geisio mynd ato.

Llwyddodd Ms Saunders, nofiwr môr profiadol, i'w gyrraedd wedi i'w mab ei hun geisio helpu'r bachgen.

Wrth iddi ei annog i arnofio a phwyllo, fe gofiodd Jude mai dyna oedd neges yr RNLI pan ymwelodd un o'u cynrychiolwyr â'i ysgol.

Yn y cyfamser, roedd un o'i frodyr ac ymwelwyr eraill â'r traeth wedi ffonio'r gwasanaethau brys.

Dywed Jude ei fod wedi treulio 20 munud yn y dŵr ond bod y cyfnod yn teimlo'n "hirach" na hynny.

"Roedd cryfder y cerrynt yn anhygoel," meddai ei dad, Paul. "Oll oedden ni'n gallu ei wneud oedd gwylio a gweddïo.

"Rydym yn gobeithio bod pobl yn dilyn cyngor yr RNLI oherwydd does dim amheuaeth gen i, bod y cyngor wedi helpu i'w achub y diwrnod hwnnw.

"Pan gyrhaeddodd y bad achub Jude roedd y cerrynt wedi ei sgubo ymhell o'r fan lle roedd yn padlo 25 munud ynghynt.

"Yn rhyfeddol, trwy arnofio ac osgoi gorflino roedd Jude yn dal â rhywfaint o nerth ar ôl wrth gael ei godi o'r dŵr."