Mark Drakeford: Safbwynt Llafur yn 'rhy gymhleth'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Mark Drakeford bellach yn cefnogi pleidlais arall ar Brexit

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi cyfaddef bod safbwynt Llafur Cymru cyn yr etholiadau Ewropeaidd yn "rhy gymhleth".

Daeth Llafur yn drydydd y tu ôl i Blaid Brexit a Phlaid Cymru, ac maen nhw wedi cael eu beirniadu am beidio â chymryd safbwynt clir ar y syniad o gynnal refferendwm newydd ar Brexit.

Roedd penderfyniad Prif Weinidog y DU, Theresa May i roi'r gorau i'r arweinyddiaeth a'r posibilrwydd y byddai Prif Weinidog newydd yn cyflwyno safbwynt cadarnach ar Brexit yn golygu bod y sefyllfa "wedi newid yn sylfaenol".

Yn ei gyfweliad cyntaf ers y diwrnod pleidleisio, dywedodd Mr Drakeford wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales ei fod wedi siarad ag arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ac wedi esbonio sefyllfa newydd Llafur Cymru.

"Rwyf bellach wedi dod i'r casgliad mai'r unig ffordd y gallwn geisio sicrhau dyfodol i Gymru na fyddai'n drychineb yw rhoi'r penderfyniad hwn yn ôl i'r bobl mewn refferendwm," meddai.

"Roedden ni'n gwneud ein gorau i barchu canlyniad y refferendwm gwreiddiol.

"Pleidleisiodd pobl yng Nghymru i adael yr UE ac ers hynny roeddem yn ceisio dod o hyd i ffordd o barchu'r bleidlais honno drwy greu math o Brexit a fyddai wedi cefnogi economi Cymru, gan warantu ffyniant yma yng Nghymru.

Disgrifiad o'r llun, Mae Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu am ddiffyg eglurdeb ar bolisi Brexit y Blaid Lafur yn ystod etholiad Ewrop

"Rydym bellach mewn sefyllfa lle mae pethau wedi newid yn sylfaenol oherwydd bod cystadleuaeth arweinyddiaeth newydd yn dod yn gystadleuaeth rhwng ffurfiau anoddach a chaletach o Brexit... mae hynny'n wahanol iawn i le roeddem ryw ddeg diwrnod yn ôl.

"Mae cydnabod y ffaith honno yn golygu bod yn rhaid i ni ail-feddwl sut y byddem yn mynd i'r afael â hynny yng Nghymru.

"Mae'r cyfle i wneud unrhyw fath o gytundeb fyddai'n ffafriol i ni ar ben yn anffodus, ac o dan yr amgylchiadau hynny ein barn ni yw bod rhaid mynd ag e yn ôl at bobl, mewn cymdeithas sydd wedi'i rhannu'n ddwfn iawn, gan ofyn i bobl am eu dyfarniad eto."

Neges 'glir ond cymhleth'

Ychwanegodd: "Fe gychwynnon ni'r broses etholiadol yma gyda beth oedd yn fy meddwl i yn neges glir ond yn gymhleth.

"Cymhleth, oherwydd ein bod yn ceisio dangos ein bod wedi cymryd canlyniad y refferendwm o ddifrif, tra hefyd yn paratoi ar gyfer yr hyn y byddai angen ei wneud os na fyddai modd dod i gytundeb a fydda o fudd i ni.

"Deallaf fod hynny'n gymhleth ac i lawer o bobl roedd hynny'n sefyllfa oedd yn anodd ei deall."

Dywed Mr Drakeford ei fod wedi siarad gyda Mr Corbyn ddydd Llun.

"Mae e'n parhau i gael cyngor gan amrywiaeth o wahanol ffynonellau. Rwy'n credu bod sefyllfa'r DU yn dal i esblygu; fe fyddwn ni'n clywed mwy am hyn, rwy'n credu, dros yr wythnos hon.

"Fe wnes i hi'n glir iawn iddo fe beth yw'r sefyllfa yma yng Nghymru."