Â鶹ԼÅÄ

Say Something in Welsh: 'Dim yn stopio' rhag cyrraedd 1m

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma rai o'r dysgwyr diweddara' yn esbonio pam eu bod wedi penderfynu dysgu'r iaith

Bydd degawd o ddysgu Cymraeg ar y we ac yn y gymuned gan Say Something in Welsh yn cael ei ddathlu'r wythnos hon.

Mae 50,000 o bobl wedi cofrestru ar wefan y cwmni yn y ddegawd ddiwethaf, ac maen nhw bellach yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau: yn cynnwys dysgu brawddeg ar y tro, cyrsiau chwe mis, chwe munud y dydd, neu gyrsiau preswyl dwys.

Mae dysgu Cymraeg i'r cyflwynydd Jeremy Vine ar ei raglen ar Radio 2 wedi denu tipyn o ddiddordeb yn y cwmni yn ddiweddar.

Catrin ac Aran Jones, ac Iestyn ap Dafydd wnaeth sefydlu'r cyrsiau, ac mae'r cwmni bellach yn cyflogi chwe aelod o staff a dau weithiwr llawrydd.

Mae Iestyn ap Dafydd yn credu bod gwaith y cwmni yn dangos bod "dim byd i stopio ni" rhag cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn ap Dafydd yn dweud bod "dim byd i stopio ni" rhag cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Yn ôl Iestyn ap Dafydd, mae cwrdd â'r galw cynyddol am sesiynau Cymraeg yn her:

"Y rhwystredigaeth yw, s'dim digon o arian 'da ni i 'neud popeth 'yn ni mo'yn.

"Mae gymaint o syniade i ddatblygu'r busnes, ond mae'n rhaid cydbwyso..."

"Mae gyda ni ysgoloriaeth ar gyfer pobl sy' wir methu fforddio neud y cwrs."

Y cyflwynydd Jeremy Vine sydd wedi cyfrannu arian ar gyfer rhai o'r cyrsiau sydd ynghlwm â'r ysgoloriaethau hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl dysgu Cymraeg gyda'r cwmni, mae Dee McCarney (canol) bellach yn gweithio i Say Something in Welsh

Roedd Dee McCarney ar y bwt camp cyntaf degawd yn ôl, ac ar ôl gwirfoddoli am flynyddoedd mae hi bellach yn gweithio i'r cwmni.

"O'n i'n mynd i ddosbarth Cymraeg, ond doedd hynny ddim yn ddigon i fi, felly ro'n i'n chwilio am rywbeth ar-lein, shwt fi'n gallu ychwanegu 'chydig bach mwy i roi hyder i fi i siarad, a ffeindies i Say Something in Welsh.

"'Odd e newydd ddechre, felly o'n i'n meddwl, 'o bydd hynny yn dda'."

'Symud oherwydd yr iaith'

Cafodd Dee ei magu yn Seland Newydd ac er ei bod yn "ymwybodol trwy'r amser o'r iaith frodorol", doedd hi ddim yn ei dysgu.

"Ond roedd lot o ddiddordeb 'da fi mewn ieithoedd yn gyffredinol, a phan o'n i'n meddwl ble ro'n i mo'yn byw, os dwi'n mynd i Gymru, dwi'n gallu dysgu'r iaith Gymraeg sy' fwy neu lai yr un peth â'r iaith Maori yn Seland Newydd.

"Mae'n iaith leiafrifol ond mae'n tyfu, mae'n dod 'nôl, yn codi eto... Felly nes i benderfynu dod i Gymru oherwydd yr iaith, mwy neu lai."

Targed Llywodraeth Cymru yw cyraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ond beth am dargedau Say Something in Welsh? Cadarnhaol yw ymateb Iestyn ap Dafydd.

"Os y'ch chi'n meddwl, mae hanner miliwn o bobl yn siarad Cymraeg nawr," meddai.

"Tase pob person sy'n siarad Cymraeg yn ffindo un person o'dd yn fodlon gwneud cwrs chwe mis Say Something in Welsh, fydde'n ni'n cyrraedd y miliwn erbyn blwyddyn nesa'.

"Felly s'dim i stopo ni os ydyn ni'n gallu ehangu fel ry'n ni'n cynllunio i 'neud.

"Does dim byd i stopio ni rhag cyrraedd y miliwn yn fuan iawn."