Met Caerdydd yn cyrraedd Ewrop ar 么l trechu'r Bala

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Am y tro cyntaf erioed bydd Met Caerdydd yn chwarae yn Ewrop wedi iddynt drechu Bala ar giciau o'r smotyn yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Y sg么r wedi 90 munud ac ar 么l amser ychwanegol ym Maes Tegid oedd un yr un ac am y tro cyntaf erioed aeth y gemau ail gyfle i amser ychwanegol.

Roedd y ddwy g么l wedi digwydd cyn hanner amser - Henry Jones o d卯m Y Bala a sgoriodd gyntaf ac fe unionodd Eliot Evans y sg么r i Met Caerdydd.

Wedi i Bala fethu ciciau o'r smotyn fe sicrhaodd cic Eliot Evans y fuddugoliaeth dyngedfennol i Met Caerdydd.