Â鶹ԼÅÄ

Apêl i'r to ifanc helpu i drefnu sioeau amaethyddol

  • Cyhoeddwyd
Sioe Nefyn
Disgrifiad o’r llun,

Sioe Nefyn yw sioe amaethyddol gyntaf y flwyddyn yng Nghymru

Ar ddechrau tymor y sioeau amaethyddol mae yna bryder nad oes digon o wirfoddolwyr ifanc yn camu i'r adwy fel eu bod yn gallu cymryd yr awennau yn y pen draw.

Ar ddiwrnod sioe amaethyddol gyntaf y flwyddyn, Sioe Nefyn, dywedodd un o'r trefnwyr bod pethau yn mynd yn anoddach.

Serch hynny, mae yna reswm i ddathlu wedi cynnydd yn nifer y cystadleuwyr eleni "ymhob adran".

Roedd nifer y defaid a'r gwartheg a gystadlodd y flwyddyn ddiwethaf ar i lawr yn sgil gaeaf caled y llynedd.

Testun pryder arall, meddai un o'r trefnwyr, yw'r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn yng nghostau ymarferol cynnal y sioeau, gan gynnwys pris yswiriant.

'Profiad da'

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Sioe Nefyn, Eirian Lloyd Hughes y byddai'r trefnwyr "wrth ein bodda' yn ca'l aeloda' newydd i ddod ar y pwyllgor" ond bod denu'r to iau yn her.

"Mae'n anoddach yn sicr" meddai, "achos ma' 'na gymaint o betha' erill yn mynd â bryd pobol dyddia' 'ma."

"Mae gynnon ni griw eithriadol o dda ar y pwyllgor ond fyswn i yn annog unrhyw un sydd â diddordeb... unrhyw fath o ddiddordeb mewn unrhyw faes yn y sioe, i ddod ymlaen.

"Mae o'n brofiad da i gynnal rwbath fel hyn, 'Dan ni'n dîm agos iawn, 'dan ni'n ffrindia' mawr i gyd a 'dan ni'n ca'l lot o hwyl."

Ychwanegodd bod costau ymarferol rhedeg sioe "wedi codi yn ofnadwy".

"'Dan ni'n gorfod ca'l yswiriant, 'dan ni'n gorfod ca'l offer y pebyll." meddai, "mae 'na lot o gostau."

Ond wedi i aeaf caled y llynedd achosi gostyngiad yn nifer y defaid a'r gwartheg yng nghystadleuthau'r sioe ddiwethaf, dywedodd bod pethau wedi gwella eleni "ymhob adran", a bod nifer y stondinau hefyd "yn dda iawn".