Â鶹ԼÅÄ

Pryderon ynglÅ·n â newidiadau i wasanaeth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales

  • Cyhoeddwyd
claire summers
Disgrifiad o’r llun,

Â鶹ԼÅÄ Radio Wales ydi gorsaf cyfrwng Saesneg Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi codi pryderon gydag Ofcom am newidiadau i wasanaeth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales.

Yn ôl y dirprwy weinidog dros yr economi, fe fyddai'r newid yn golygu nad oes "rhaglen newyddion difrifol" ar gael yn y boreau yng Nghymru.

Mae Â鶹ԼÅÄ Radio Wales yn newid eu hamserlen fel bod rhaglen foreol Claire Summers yn cymryd lle rhaglen newyddion Good Morning Wales.

Mewn ymateb, esboniodd y Â鶹ԼÅÄ eu bod wedi "ymroi yn llwyr i ddarparu newyddion i'n cynulleidfa eang".

Disgrifiad o’r llun,

Esboniodd Mr Waters bod diffyg gwybodaeth am fformat newydd y rhaglen yn bwydo ei bryderon

Fe fydd rhaglen newydd Â鶹ԼÅÄ Radio Wales's Breakfast with Claire Summers yn rhaglen newyddion, heb gerddoriaeth, pan mae'n dechrau darlledu ar 13 Mai, tra bod rhaglen newyddion y prynhawn yn newid i fod yn rhaglen fyrrach.

Roedd Lee Waters yn arfer cynhyrchu rhaglen Good Morning Wales pan oedd yn gweithio yn y Â鶹ԼÅÄ ar ddechrau'r 2000au, ac mae wedi beirniadu'r newidiadau yn gyhoeddus.

Mae'r llywodraeth wedi mabwysiadu ei bryderon, a bu Mr Waters yn trafod y mater gyda chyfarwyddwr Ofcom Cymru, Eleanor Marks.

'Cyfrifioldeb i ddarparu'

Eglurodd Mr Waters bod gan y Â鶹ԼÅÄ "gyfrifoldeb i ddarparu newyddion difrifol sy'n craffu ac yn beirniadu. Yn union fel mae'r Â鶹ԼÅÄ yn ei wneud yn yr Alban ac ar y gwasanaeth rhwydwaith".

"Rwy'n deall bod angen ennyn cynulleidfaoedd a fyddai fel arfer yn gwrando ar radio masnachol, ond dyma'r unig safle sy'n cynnig newyddion dwys i Gymru yn ystod y slot frecwast."

"Mae eu cyfrifoldeb yn mynd tu hwnt i redeg ar ôl cynulleidfaoedd", meddai.

Pan ofynnwyd iddo os oedd yn poeni am ymyrryd ym mhenderfyniadau golygyddol y Â鶹ԼÅÄ, dywedodd Mr Waters nad oedd yn gwneud hynny ar "chwarae bach".

"Gyda ninnau'n gweld fod ecosystem cyfryngau Cymru mor fregus, ac ar ôl peth ystyriaeth, penderfynon ni bod modd cyfiawnhau'r penderfyniad."

Mewn datganiad, dywedodd Â鶹ԼÅÄ Cymru eu bod nhw'n "ymroi yn llwyr i ddarparu newyddion i'n cynulleidfa eang yng Nghymru, saith diwrnod yr wythnos".

Mae rheolwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru hefyd wedi gwadu honiadau y bydd y rhaglen foreol yn magu fformat "cylchgrawn", gan ychwanegu y bydd y rhaglen yn parhau i graffu a dadansoddi newyddion y dydd.