Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi 'argyfwng hinsawdd'

Ffynhonnell y llun, Andrew Mabey

Disgrifiad o'r llun, Protestwyr yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi "argyfwng hinsawdd" yn dilyn protestiadau'n mynnu bod gwleidyddion yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Lesley Griffiths - Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - ei bod yn gobeithio y byddai'r cyhoeddiad yn sbarduno "ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol".

Fe wnaeth Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon gyhoeddiad tebyg ddydd Sul.

Mae disgwyl i'r Blaid Lafur bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi argyfwng drwy'r DU ddydd Mercher.

Croesawu'r cyhoeddiad wnaeth Plaid Cymru, er iddyn nhw alw ar gynllun M4 i gael ei ddileu yn ei sgil.

Arweiniodd protestiadau diweddar yn Llundain at arestio 1,000 o bobl, tra bod tua 200 o ymgyrchwyr wedi tarfu ar draffig yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf trwy feicio yn araf drwy'r ddinas.

Disgrifiad o'r llun, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths

Dywedodd Lesley Griffiths: "Does yr un wlad yn y byd wedi llwyr sylweddoli'r her ond yn union fel y gwnaeth Cymru chwarae rhan flaenllaw yn y chwyldro diwydiannol cyntaf, rwy'n credu y gall Cymru fod yn esiampl i eraill o'r hyn y gall twf amgylcheddol ei olygu.

"Rydyn ni'n gobeithio y gall y datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol."

Ychwanegodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo" i wneud y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030.

Ffordd yr M4

Daw'r datganiad ddeuddydd cyn dadl Plaid Cymru ar newid yn yr hinsawdd yn y Senedd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr amgylchedd, Llyr Gruffydd: "Mae'n rhaid i hyn bellach olygu ymrwymiad gwirioneddol ac ar unwaith i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd gyda chamau pendant ac ewyllys wleidyddol i'w weld.

"Mae hyn yn cynnwys sgrapio'r trychineb amgylcheddol, sef Ffordd Liniaru'r M4, dargyfeirio o danwydd ffosil, a sicrhau bod cynaliadwyedd a hinsawdd yn rhan o'r cwricwlwm newydd."

Ddydd Sul, awgrymodd prif weinidog Cymru, Mark Drakeford y gallai'r penderfyniad ar y ffordd gael ei ohirio ymhellach gan yr etholiadau Ewropeaidd.

Ond dywedodd y bydd yr amserlen o wneud penderfyniadau yn cael ei gosod yn gynnar yr wythnos hon.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price y byddai'n "annerbyniol" i Mr Drakeford ohirio'r penderfyniad am resymau gwleidyddol.

Dywedodd llefarydd yr amgylchedd dros y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies y byddai'n "aros i weld pa gamau a gymerir i sicrhau nad addewid gwag arall gan Lywodraeth Lafur yng Nghymru yn unig yw hwn".