Anghytuno am iaith ysgol newydd Plasdŵr, Caerdydd

Disgrifiad o'r llun, Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd yn dweud y bydd defnydd helaeth o'r Gymraeg yn y ffrwd Saesneg

Mae 'na anghytuno ynglŷn â ffrydiau iaith ysgol a fydd yn gwasanaethu datblygiad tai newydd ger Caerdydd.

Yn ystod y saith mlynedd nesaf bydd 7,000 o dai yn cael eu codi fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr yn ardal Radur.

Mae cabinet Cyngor Caerdydd wedi dechrau ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd fyddai'n cynnwys ffrwd Saesneg ond gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg yn y ffrwd honno.

Mae ymgyrchwyr yn honni bod arweinydd Cyngor Caerdydd wedi torri addewid gan iddo drydar fis Medi diwethaf bod "ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr".

Ond mae'r arweinydd, Huw Thomas, yn dweud fod yna resymau dilys dros y penderfyniad a'r nod yw "creu dinas ddwyieithog".

'Plesio'r rhai gwrth-Gymraeg?'

Dywedodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith: "Ysgol cyfrwng Cymraeg, nid ysgol ddwyieithog, sydd ei hangen yma os yw'r cyngor o ddifrif am sicrhau ein bod ni'n cyrraedd miliwn o siaradwyr."

Ychwanegodd: "Yn wir, roedden ni ar ddeall y byddai'r ysgol gyntaf yn un cyfrwng Cymraeg. Beth sydd wedi digwydd?

"Ydy'r arweinydd wedi gwneud tro pedol er mwyn plesio'r rhai gwrth-Gymraeg o fewn y cabinet?"

Ffynhonnell y llun, Twitter

Disgrifiad o'r llun, Yn rhan o sgwrs ehangach ym mis Medi, dywedodd Mr Thomas bod addysg Gymraeg yn "rhan ganolog" o'r datblygiad

Dywedodd Mr Thomas: "Y ddau brif reswm sydd y tu ôl i'r cynnig yw 'dan ni ddim eisiau ehangu yn rhy gyflym i ddisefydlogi rhai o'r ysgolion cynradd Cymraeg sy'n lleol i'r ysgol newydd a dyna fydd y peryg o agor dwy ffrwd uniaith Gymraeg.

"Yr ail reswm, mae gynnon ni ddyletswydd statudol i ddarparu addysg Saesneg hefyd ond be' sy'n newydd yn y cynnig yma ydy fod y ffrwd Saesneg yn mynd i gael defnydd helaeth o'r Gymraeg ynddi hefyd."

Ychwanegodd Mabli Siriol bod y datblygiad yn "cynnig cyfle euraidd" i gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg, a bod peidio gwneud hynny'n "rhwystro twf y Gymraeg yn yr ardal a dyheadau'r rhan helaeth o bobl yr ardal i adfer y Gymraeg a gweld ein pobl ifanc yn dod yn rhugl yn yr iaith".

"Ar hyn o bryd, yn ôl ystadegau'r cyngor, mae mwy o blant oedran derbyn sydd eisiau lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg nag sydd o le iddyn nhw, ond mae llefydd dros ben mewn ysgolion Saesneg, beth yw'r synnwyr agor ffrwd Saesneg felly?"

Disgrifiad o'r llun, Bydd 7,000 o dai yn cael eu codi fel rhan o ddatblygiad Plasdŵr

Dywedodd Mr Thomas mai'r gobaith yw bod disgyblion yn "mynd drwy'r ffrwd Saesneg ac ar ddiwedd eu gyrfa yn yr ysgol gynradd bod nhw yn teimlo'n ddigon hyderus yn eu Cymraeg i fynd i ysgol uwchradd Gymraeg".

"Dwi'n meddwl bod angen cydnabod bod yna deuluoedd fyddai gyda phryderon ynghylch addysg Gymraeg ond ein dyhead ni yw gweld a chreu dinas ddwyieithog."

Bydd cyfle nawr i'r cyhoedd roi eu barn ar y cynlluniau newydd.