Ateb y Galw: Yr actores Rhianna Loren

Ffynhonnell y llun, Rhianna Loren

Yr actores Rhianna Loren sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Elan Evans yr wythnos diwethaf.

Mae Rhianna yn adnabyddus fel y cymeriad sydd yn rhoi cyflwyniadau 'diddorol' ar drefi ledled Cymru.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dad yn rhoi ni ar ei gefn pan oedden ni'n plant ac esgus bod yn geffyl o gwmpas y 'stafell fyw.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Y boi oedd yn chwarae Peter Pan (dim y cartŵn). Seriys crush!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Pan o'n i'n rhan o Gôr Prydain Fawr, pan o'n i tua 13 mlwydd oed, nes i gwrdd â bachgen. Fi'n cofio meddwl bod e mor posh o gymharu â fi (o'dd ei dad e'n berchen ar gwch!). Roedd popeth yn mynd yn arbennig cyn i fi rechu o'i flaen e. Nes i beggio ffrind gore fi i gymryd y bai a 'nath hi wrthod. Do'dd dim byd yn iawn rhyngtho ni ar ôl y digwyddiad yna. Siom!

O archif Ateb y Galw:

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Neithiwr ym Mae Caerdydd. O'n i'n oer! Dwi ddim yn un sy'n crïo am lawer o rhesymau. Ond mae gwynt oer yn gallu achosi i fi grïo yn gynt nag unrhywbeth arall!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, dwi o hyd yn ordro gormod o fwyd a wedyn methu ei fwyta fe i gyd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pen y Pass. Y tro cyntaf i mi fynd i ymweld â teulu fy nghariad wnaeth Gareth fynd â fi ar road trip bach un diwrnod ac o'n i genuinely methu credu prydferthwch y lle. Roedd hi'n ddiwrnod mor arbennig.

Ffynhonnell y llun, Amber Morris

Disgrifiad o'r llun, Pen-y-pass yn ei holl ogoniant

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan o'n i yn y brifysgol yng Nghaerdydd, 'nath fi a Mari Elen benderfynu mynd allan i'r dafarn leol am gwpl o ddrincs. O'dd band byw yn chwarae a 'nathon ni ddawnsio am orie. Benon ni lan yn mynd mewn i dre a dwi'n cofio meddwl ar y pryd bod fi'n teimlo mor ifanc a rhydd a fy mod i'n mynd i gofio'r noson yna am byth.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Egnïol, direidus, gweithgar.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Dwi ddim yn berson ffilms i fod yn onest ond yn dwlu ar ddarllen. Fy hoff lyfr yw Gone Girl gan Gillian Flynn. Darllenais y llyfr mor gloi achos o'n i ffaelu rhoi hi i lawr! Mor dda! I fod yn onest doedd y ffilm ddim yn rhy wael ond mae'r llyfrau wastad yn well!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Elis James a John Robins. Mae nhw'n hilarious a dwi rili eisiau cwrdd â nhw! Os ydi Elis yn darllen hwn, dwi ddim yn meddwl 'sa fe'n cyrraedd mor bell lawr y dudalen, ond os yw e… Elis… fi'n laff!

Disgrifiad o'r llun, Mae Elis James a John Robins yn ymuno â gorsaf Â鶹ԼÅÄ Radio 5 Live i gyflwyno rhaglen adloniant newydd

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Unwaith nes i liwio'n wallt yn wyrdd (o'dd e i fod yn lliw glas cŵl) nes i ddim meddwl am y ffaith bod glas a melyn (gan fy mod yn blonde) yn 'neud gwyrdd. Nes i ddefnyddio sôs soch i gael y lliw allan... 'nath e ddim gweithio.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Ymlacio yn yr haul mewn gwlad boeth gyda llwyth o goctêls a snacks gyda ffrindiau a teulu.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Oooo hwn 'di'r cwestiwn anodda'! Ma' cerddoriaeth yn nostalgic iawn. Ma' gymaint o ganeuon yn fy nghludo i adegau penodol yn fy mywyd. Ma'n rhy anodd i ddewis fy hoff gân! Dwi'n dwlu gymaint ar gerddoriaeth, mae'n bwysig iawn i fi. Dwi methu dewis un - amhosib!

Ffynhonnell y llun, Rhianna Loren

Disgrifiad o'r llun, O na... doedd ymgais Rhianna i liwio ei gwallt yn las ddim yn llwyddiannus iawn

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Dwi'n figan nawr sy'n golygu mod i ddim yn bwyta rhai o'r pethau canlynol bellach ond dyma be' byse'r bwyd delfrydol…

Camembert wedi toddi gyda llwyth o fara ffres a powlen o olewydd fel cwrs cyntaf. Pizza Margherita gyda chilli flakes ac olew garlleg fel prif gwrs ac affogato fel pwdin (gyda shot o amaretto neu rhywbeth alcoholig!).

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Tilly y gath. Ma' hi'n cael 'neud be' bynnag ma'i eisiau, mynd i lle bynnag ma'i eisiau ac yn gwybod yn union sut i gael ffordd ei hun trwy'r amser!

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Geraint Rhys Edwards