Ateb y Galw: Y cyflwynydd Elan Evans

Y cyflwynydd a'r DJ Elan Evans, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Llew Glyn o'r band Gwilym yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Sefyll ar ben y grisiau melyn, llachar yn tÅ· cynta' Mam a Dad yn Ystum Taf.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Michael Owen. Ie 'sai'n deall pam chwaith… Odd 'da fi sticeri pêl-droed pan o'n i'n fach a fe odd ffefryn fi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ai gwên lydan Michael Owen a ddenodd Elan?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ma' llwyth i fod yn deg. Nes i gwmpo cyn leadio'r emyn unwaith yn Capel y Crwys pan o'n i'n fach. Es i mor goch, a 'nath ffrind fi Manon just eistedd yn y ffrynt yn chwerthin trwy'r cyfan.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Fi'n crïo lot. Ma'r cyfrif Instagram yn 'neud fi sylweddoli bo' ni'n cal crïo gyment â ni mo'yn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Online shopping.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caeau Llandaf yn yr haf - mae'n atgoffa fi o fod yn fy arddegau gyda'r mêts gore yn y byd. Ma' Tyddewi yn Sir Benfro yn lle arbennig hefyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ma' lot yn dod i'r cof. 'Nes i drefnu noson FEMME gydag Adwaith yn Clwb Ifor Bach blwyddyn d'wetha gyda Serol Serol, Marged, Gwenno Saunders a Pat Datblygu. O'dd e'n noson wych; menywod yn cefnogi menywod, fel dylse fe fod.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Adwaith, y band o Sir Gâr, yn rhan o gynllun Gorwelion y Â鶹ԼÅÄ yn 2018

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Ffyddlon. Weird. Emosiynol.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ma' gen i lot. Fi'n dwli ar lyfrau Llwyd Owen, a fi'n caru gwylio ffilms. Lord of the Rings yw siŵr o fod y gyfres ffilms fi'n mynd nôl ato drwy'r amser. Bysen i'n caru bod yn Gandalf.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Britney Spears. Bysen i'n ordero double gin and tonic i'r ddwy o' ni a mynd trwy a dadansoddi albyms hi i gyd. Ma' hi'n iconic.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Nes i ddechre actio ar Pobol y Cwm pan o'n i'n ddwy mlwydd oed a gorffen pan o'n i'n bymtheg.

Disgrifiad o'r llun, Elan ifanc yn actio Sioned gyda Gwyn Elfyn yn actio ei thad, Denzil

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gwahodd ffrindie a teulu fi gyd draw i tÅ· Nain a Bamp yn yr Eglwys Newydd. Yfed loads o de a bwyta brechdanau wy. Class.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ma' hwn yn newid lot, ond un o'r caneuon fi wastad yn mynd nôl at yw Chicago gan Sufjan Stevens (ma'r holl albym yn gampwaith) - mae'n atgoffa fi o fod yn blentyn a bod yn y car am amser hir yn gyrru ar ein gwyliau. Ma' Ei Phen gan Breichiau Hir yn un o fy hoff ganeuon hefyd.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Fi'n meddwl am y cwestiwn yma lot o ddydd i ddydd. Mae'n gwestiwn mawr, sydd yn newid yn aml. Dewis fi nawr byse: sushi i ddechre, stêc a chips fel prif gwrs a pwdin reis Mam-gu fel pwdin (ma'r pwdin wastad yn aros yr un peth).

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Theresa May - bysen i'n galw am bleidlais i'r bobl yn syth.

Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Rhianna Loren