Gorllewin Casnewydd: Y blychau pleidleisio wedi cau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae etholaeth Gorllewin Casnewydd yn cynnwys ardaloedd i'r gorllewin o Afon Wysg

Mae trigolion etholaeth Gorllewin Casnewydd wedi bod yn pleidleisio ddydd Iau i ddewis Aelod Seneddol newydd.

Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth Paul Flynn ym mis Chwefror.

Mae 11 o ymgeiswyr yn sefyll yn yr isetholiad, a bu'r pleidleisio'n digwydd rhwng 07:00 a 22:00.

Mae disgwyl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi yn ystod oriau mân fore Gwener.

Yr ymgeiswyr yn llawn ydy:

  • Jonathan Clark (Plaid Cymru);
  • June Davies (Renew);
  • Matthew Evans (Ceidwadwyr);
  • Neil Hamilton (UKIP);
  • Ruth Jones (Llafur);
  • Ryan Jones (Democratiaid Rhyddfrydol);
  • Ian McLean (SDP);
  • Hugh Nicklin (For Britain);
  • Richard Suchorzewski (Abolish the Welsh Assembly);
  • Philip Taylor (Democrats and Veterans);
  • Amelia Womack (Y Blaid Werdd).