Gwerth Bagloriaeth Cymru'n ddibynnol ar y dysgu, medd ACau

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy

Disgrifiad o'r llun, Mae'r pwyllgor wedi cynnwys 10 o argymhellion yn ei adroddiad

Er bod nifer yn feirniadol o Fagloriaeth Cymru, gallai fod yn gymhwyster gwerthfawr os caiff ei chyflwyno'n effeithiol, yn ôl Aelodau Cynulliad.

Dydy rhai ysgolion ddim yn gweld gwerth y cymhwyster, meddai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac maen nhw'n credu ei fod yn cymryd llawer o amser i gwblhau.

Dangosodd arolwg fod dau draean o ddisgyblion a rhieni gafodd eu holi o'r farn nad yw'r Fagloriaeth yn debygol o gael effaith ar yrfaoedd pobl ifanc.

Mae'r pwyllgor am weld eglurder gan Lywodraeth Cymru am ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru a'r disgwyliadau a'r adnoddau sydd eu hangen i'w chyflawni.

Un pryder a godwyd gan bobl ifanc yw bod pwysau ymgymryd â Bagloriaeth Cymru yn ychwanegu straen ar adeg pan oeddent eisoes yn wynebu pwysau cyrsiau neu arholiadau eraill.

Roedd nifer o'r farn na ddylai'r cymhwyster fod yn orfodol, ac yn ôl y pwyllgor, mae polisi Llywodraeth Cymru ar y mater yn aneglur.

'Anghysondeb'

Mae diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o ran diben y cymhwyster, meddai'r pwyllgor, sydd hefyd yn galw am godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau a phrifysgolion.

Un o'r argymhellion eraill yw bod Llywodraeth Cymru yn darparu rhestr gynhwysfawr o'r prifysgolion hynny sy'n derbyn Bagloriaeth Cymru yn eu cynigion.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffordd caiff y cymhwyster ei ddysgu yn "bryderus o anghyson" ar draws Cymru, yn ôl Lynne Neagle

Ychwanegodd yr adroddiad bod tystiolaeth o anghysondeb yn y ffordd caiff y cymhwyster ei gyflwyno ar draws Cymru.

Serch hynny, mae'r pwyllgor o'r farn bod y Fagloriaeth yn cynnig sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogadwyedd yn y dyfodol na fyddent, fel arall, yn cael eu datblygu dan gymwysterau mwy traddodiadol.

'Pryderus o anghyson'

Dywedodd Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, bod "diffyg dealltwriaeth o ddiben a chynnwys y cymhwyster, a'r anghysondeb wrth ei darparu" wedi cyfrannu at brofiadau "negyddol" rhai disgyblion.

"Daethom i'r casgliad bod y ffordd y mae'r cymhwyster yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd, a'r cyhoeddusrwydd o'i amgylch yn cael effaith niweidiol ar ei werth gwirioneddol a thybiedig," meddai.

"Mae'r canolfannau dysgu yn parhau i fod yn bryderus o anghyson, ac mae dyblygu ymdrech a gofynion asesu na ellir eu rheoli yn arwain at athrawon a dysgwyr sydd wedi cael digon."

Ond nododd Ms Neagle bod gwerth mewn astudio'r Fagloriaeth a'i fod yn gallu ychwanegu at sgiliau a phrofiadau dysgwyr.

Bydd yr adroddiad nawr yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.